Neidio i'r cynnwys

Laura O'Sullivan

Oddi ar Wicipedia
Laura O'Sullivan
Gwybodaeth Bersonol
Dyddiad geni (1991-08-23) 23 Awst 1991 (35 oed)
SafleGôl-geidwad
Y Clwb
Clwb presennolMerched Cyncoed
Rhif1
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2011–2017Merched Dinas Caerdydd
2017Yeovil Town0(0)
2017–Merched Cyncoed8(0)
Tîm Cenedlaethol
2016–Cymru
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Mae Laura O'Sullivan (ganwyd 23 Awst 1991) yn bêl-droediwr o Gymru sy'n gôl-geidwad i dîm ferched Cyncoed a thîm cenedlaethol Cymru.

Dechreuodd ei gyrfa gyda Dinas Caerdydd wedi troi at gôl-geidwadaeth yn 2015. Chwaraeodd ei gêm ryngwladol cyntaf dros Gymru yn 2016 yn chware yng nghystadleuaeth Cwpan Merched Ciprys.

Gyrfa clwb

[golygu | golygu cod]

Yn hwyrddyfodiad i gamp pêl-droed, prin fu O'Sullivan yn chware yn ei arddegau oherwydd anawsterau teithio. Rhoddodd y gorau i chware pêl-droed yn gyfan gwbl am gyfnod, rhywbeth y bu hi'n difaru wedyn. Wedi dechrau chware yn rheolaidd eto yn 2011 dechreuodd O'Sullivan fel amddiffynnwr yn chware i dîm merched Dinas Caerdydd. Gan ei fod wedi llenwi fel gôl-geidwad wrth i'r tîm gael trafferth cadw gôl-geidwad rheolaidd penderfynodd newid ei safle.[1]. Ym mis Rhagfyr 2014 daeth yn gôl-geidwad llawn amser, ac wedi gwneud gwaith da i'r ail dîm cafodd ei dewis i'r tîm cyntaf. Yn ei thymor cyntaf sefydlodd ei hun fel y dewis cyntaf i chware yn y gôl. Ar ddiwedd tymor 2014-15 enillodd wobr yr hyfforddwr i Chwaraewr y Flwyddyn[1][2].

Ym mis Medi 2017 ymunodd O'Sullivan a'i chyd chwaraewr rhyngwladol Cymreig Hannah Miles a thîm FA WSL1, Yeovil Town.[3]

Gyrfa ryngwladol

[golygu | golygu cod]

Roedd O'Sullivan wedi cael ei galw i wersylloedd hyfforddi'r garfan ar ddau achlysur cyn iddi cael ei dewis am y tro cyntaf fel aelod o dîm cyntaf Cymru. Dewisodd Jayne Ludlow, rheolwr Cymru O'Sullivan fel y golwr ar gyfer gêm agoriadol Cwpan Ciprys ar 2 Mawrth 2016 yn erbyn y Ffindir. Bu'r gêm yn un gyfartal gyda'r naill dîm a'r llall yn sgorio dwy gôl yr un.[1][4] Chwaraeodd yn y ddwy gêm arall yng ngrŵp Cymru o'r gystadleuaeth yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ac yn erbyn Gwlad Pwyl. Methodd tîm Cymru i gyrraedd tu hwnt i'r gemau grŵp.[1]

Ym mis Hydref 2017, cafodd ei henwi'n Peldroediwr Benywaidd Cymreig y Flwyddyn.[5][6] Yn ystod ymgyrch Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan Merched y Byd 2019 llwyddodd i gadw llechen lân am bum gêm yn olynol. Wedi gêm 0-0 Cymru yn erbyn Lloegr ar 6 Ebrill 2018 enwyd O'Sullivan yn seren y gêm ar ôl ymdrech arwrol i rwystro'r Saeson rhag sgorio[7].

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]
  • Chwarewr y Flwyddyn Clwb Merched Caerdydd – enwebiad yr Hyfforddwr 2014-2015.[2]
  • Peldroediwr Benywaidd Cymreig y Flwyddyn [6]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 3 4 Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  2. 1 2 Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  3. Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  4. Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  5. Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  6. 1 2 Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  7. Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).