Laudio
Jump to navigation
Jump to search
Dinas yn nhalaith Araba yng Ngymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg yw Laudio (Basgeg: Laudio, Sbaeneg: Llodio).
Hi yw ail ddinas talaith Araba, gyda phoblogaeth o 18,397 yn 2007, ac mae'n ganolfan ddiwydiannol bwysig. Saif yng ngogledd-orllewin y dalaith, yn rhan ganol dyffryn Afon Nervión. Nid yw ymhell o'r ffîn a thalaith Biskaia, a dim ond 20 km o Bilbao.
Pobl enwog o Laudio[golygu | golygu cod y dudalen]
- Juan José Ibarretxe: Gwleidydd a chyn-Lehendakari (Arlywydd) Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg