Lady Libertine
| Enghraifft o: | ffilm |
|---|---|
| Lliw/iau | lliw |
| Gwlad | Ffrainc, Canada |
| Dyddiad cyhoeddi | 1983 |
| Genre | ffilm ramantus, ffilm erotig, ffilm ddrama |
| Hyd | 82 munud |
| Cyfarwyddwr/wyr | Gérard Kikoïne |
| Cyfansoddwr | Marc Hillman |
| Dosbarthydd | Play boy Enterprises |
| Iaith wreiddiol | Saesneg |
| Sgriptiwr | Harry Alan Towers |
| Dynodwyr | |
Ffilm ddrama sy'n cynnwys elfennau erotig gan y cyfarwyddwr Gérard Kikoïne yw Lady Libertine a gyhoeddwyd yn 1983. Fe'i cynhyrchwyd yng Nghanada a Ffrainc. Sgwennwyd y sgript yn wreiddiol yn Saesneg a hynny gan Harry Alan Towers. Dosbarthwyd y ffilm hon gan Play boy Enterprises.
Y prif actor yn y ffilm hon yw Christopher Pearson. Mae'r ffilm Lady Libertine yn 82 munud o hyd a chafodd ei ffilmio mewn lliw.
Mae'r cynhyrchiad Playboy hwn, a ryddhawyd yn theatrau Ewrop ac ar deledu yn yr Unol Daleithiau, yn addasiad o'r nofel Victoraidd (1902) Frank and I gan Bill Adler. Ceisiodd yr actores a'r seren deledu Sophie Favier atal y cwmni rhag ryddhau'r ffilm, ond bu'n aflwyddiannus.[1]
Roedd gan Gérard Kikoïne gyllideb eithaf mawr ar gyfer y ffilm hon a chafodd gymorth gan y dylunydd setiau Ffrengig Jean-Charles Dedieu. Felly mae'r ansawdd yn eitha da, yn enwedig gan eu bod yn cynnwys llawer o wisgoedd y cyfnod a setiau moethus.[2] Mae'r ferch ifanc, Jennifer Inch yn chwarae rhan Frank, y bachgen amddifad, a'r ferch Frances. Sophie Favier sy'n chwarae rhan meistres yr uchelwr Charles de Beaumont.
Cyfarwyddwr
[golygu | golygu cod]Ganwyd y cyfarwyddwr ffilm Gérard Kikoïne ar 30 Mawrth 1946 ym Mharis.
Plot
[golygu | golygu cod]Yn y 1880au, mae uchelwr cyfoethog o Lundain, Charles de Beaumont (sy'n cael ei chwarae gan Christopher Pearson), yn cwrdd â "Frank", glaslanc, ac yn cynnig llety i'r amddifad ifanc hwn. Mae'n penderfynu ei addysgu ar ei ben ei hun yn hytrach na'i ddanfon i'r ysgol. Ond nid yw Frank yn ddisgybl ufudd ac mae Charles yn ei chwipio. Pan mae'n diosg ei drowsus, mae Charles yn darganfod nad bachgen yw Frank fel y credai, ond merch ifanc hardd o'r enw Frances.
Derbyniad
[golygu | golygu cod]Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyhoeddodd Gérard Kikoïne nifer o ffilmiau gan gynnwys y canlynol:
Rhestr Wicidata:
| Ffilm | Delwedd | Gwlad | Iaith wreiddiol | dyddiad |
|---|---|---|---|---|
| Adorable Lola | Ffrainc | Ffrangeg | 1981-01-01 | |
| Buried Alive | Unol Daleithiau America | Saesneg | 1990-01-01 | |
| Clinique pour femmes | Ffrainc | Ffrangeg | 1978-01-01 | |
| Edge of Sanity | y Deyrnas Unedig Unol Daleithiau America |
Saesneg | 1989-01-01 | |
| Lady Libertine | y Deyrnas Unedig Ffrainc Canada |
Saesneg | 1983-01-01 | |
| Le Feu Sous La Peau | Ffrainc | Ffrangeg | 1985-01-01 | |
| St. Tropez | Ffrainc | Almaeneg | 1982-01-17 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Sophie Favier, dix ans après L'Humanité - 27 May 1993
- ↑ "Eccentric Cinema DVD review". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 January 2008. Cyrchwyd 25 December 2007.
- Rhestrau cuddiedig o Wicidata
- Cyfeiriadau cuddiedig o Wicidata
- Tudalennau â dolenni ffeil sydd wedi'u torri
- Ffilmiau gan gyfarwyddwyr ffilm gwrywaidd Saesneg
- Ffilmiau lliw
- Ffilmiau lliw o Ganada
- Ffilmiau dirgelwch o Ganada
- Ffilmiau Saesneg
- Ffilmiau o Ganada
- Ffilmiau dirgelwch
- Ffilmiau 1983
- Ffilmiau gyda llai na 10 o actorion lleisiol
- Rhywioldeb ieuenctid mewn ffilmiau