La Primera Cena (drama)
Enghraifft o'r canlynol | drama lwyfan Gymraeg |
---|---|
Awdur | Dewi Wyn Williams |
Cyhoeddwr | Atebol |
Gwlad | Cymru |
Dyddiad cyhoeddi | 2017 |
Cysylltir gyda | Medal Ddrama |
Drama fuddugol cystadleuaeth Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr 2014 yw La Primera Cena, o waith y dramodydd Dewi Wyn Williams. Dyma'r tro cyntaf iddo ddod yn fuddugol yn y gystadleuaeth, er bod yn agos i'r brig ym 1989 gyda'r ddrama Leni. Daw teitl y ddrama o lun gan yr artist Dafne Elvira sy'n barodi o'r Swper Olaf, ac yn cyfieithu i'r Gymraeg fel Y Pryd Cyntaf. Cyhoeddwyd y ddrama yn 2017 gan Atebol.
Disgrifiad byr
[golygu | golygu cod]"Mae tad a mab yn cyfarfod am y tro cyntaf mewn 30 mlynedd," yw'r disgrifiad ar glawr y ddrama gyhoeddedig, "ond nid yw'n gyfarfyddiad hawdd... na chwbl bleserus. Mae cyfrinachau wedi eu claddu'n ddwfn, a gwirioneddau anghyfforddus yn cuddio yng nghilfachau'r cof. Wrth i gymylau duon eu gorffennol gilio'n raddol, cawn olwg ar un o gwestiynau mawr y ddynoliaeth sef beth sydd wrth wraidd cymeriad dyn - magwraeth ynteu natur? Dyma stori ddirdynnol am yr awch cynhenid i ddarganfod y gwir."[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]"Mae La Primera Cena yn ymdrin â pherthynas tad a mab," noda'r actor John Glyn Owen, yn rhagair i'r ddrama yn 2016.[1] "Oherwydd hynny, yn naturiol, mae o'n dod ag atgofion i mi o dad y dramodydd ei hun sef yr actor Glyn Williams, Penysarn. [...] O ystyried un o themâu La Primera Cena, sef 'nature versus nurture' mae'n berffaith amlwg i mi fod Dewi wedi etifeddu ffraethineb a dawn geiriau ei dad. Mae La Primera Cena yn cydio'n gryf ar sawl lefel. Mae yma stori gefndirol drist. Mae yma gymeriadau cryf sydd yn amlwg wedi bod yn dioddef ers blynyddoedd. Mae'n rhan o'r natur ddynol i ni fod eisiau gwybod pwy ydan ni. Beth ydy gwreiddiau ein bodolaeth? Yn y ddrama, mae Aric yn benderfynol o ddarganfod y gwir er gwaetha'r ffaith ei fod o'n gorfod codi crachen enfawr, ddolurus i gael at y gwir hwnnw.'[1]
Wrth ddyfafarnu'r Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr 2014, nododd y ddau feirniad - Roger Williams a Sara Lloyd bod "Dramodydd hyderus [...] [ar] waith yma, yn adrodd stori dyn yn cyfarfod â'i dad am y tro cyntaf ers deng mlynedd ar hugain. Mae'n strwythuro'r ddeialog gyda chrefft a dychymyg ac yn llwyddo i fachu'r gynulleidfa. Pedwar cymeriad diddorol, clir a gwahanol i'w gilydd, er bod y ddau ohonom yn teimlo nad oedd y menywod yn y ddrama wedi cael y sylw a haeddent. Mae lle i ddatblygu hyn yng nghyd-destun y darlun gan Davni Elvira sydd wedi ysbrydoli'r gwaith ac i fynd yn ddyfnach i esblygu'r drafodaeth am natur ein perthynasau ni."[2]
Ar glawr y ddrama gyhoeddedig, mae llun o'r dramodydd Dewi Wyn Williams yn blentyn gyda'i dad Glyn Williams.[1]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Brian Ellis - 54 oed, cyn-weithiwr mewn banc.
- Hera Muir - 57 oed, ei gymar.
- Aric Ellis - 34 oed, mab Brian, mynyddwr.
- Stela Thomas - 33 oed, cariad Aric, nyrs seiciatryddol.
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Cafodd y ddrama ei llwyfannu am y tro cyntaf ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fynwy 2015 gan Theatr Genedlaethol Cymru. Cyfarwyddwr Janet Aethwy; cast:
- Brian Ellis - John Glyn Owen
- Hera Muir - Delyth Wyn
- Aric Ellis - Martin Thomas
- Stela Thomas - Siân Beca
"Wrth fynd ati i ymarfer a Ilwyfannu La Primera Cena roedd hi'n amhosib i mi, fel actor, osgoi ystyried a gwerthuso fy rhinweddau a fy ffaeleddau fy hun fel mab ac, yn diweddarach, fel tad", eglura John Glyn Owen; "Hynny yw, a oes ffasiwn beth a pherthynas berffaith rhwng dyn a'i epil? A sut mae'r berthynas honno'n dablygu ac yn newid pan mae'r 'epil' yn tyfu'n oedolyn? Mae'r ddrama hon yn gofyn cwestiynau mawr a hynny trwy gymeriadau cryf, deialog feistrolgar a strwythuro cywrain. Mi fydd Ilwyfannu La Primera Cena am y tro cyntaf yn y Cwt Drama yn Eisteddfod Meifod yn aros yn y cof tra bydda i"[1]