Lôn Fain

Oddi ar Wicipedia
Lôn Fain
AwdurDafydd John Pritchard
CyhoeddwrCyhoeddiadau Barddas
GwladCymru
IaithCymraeg
ArgaeleddAr gael
ISBN9781906396640
GenreBarddoniaeth

Cyfrol o farddoniaeth gan Dafydd John Pritchard yw Lôn Fain a gyhoeddwyd yn 2013 gan Gyhoeddiadau Barddas. Man cyhoeddi: Aberystwyth, Cymru.[1]

Dyma ail gyfrol o farddoniaeth y Prifardd a'r Talyrnwr, yn gyfuniad o gerddi caeth a rhydd. Ceir yma gerddi sy'n cynnig sylwadau craff ar y gymdeithas sydd ohoni, cerddi myfyrgar, cerddi i gydnabod, cerddi taith a hefyd cerddi a gyfansoddwyd yn dilyn arhosiad byr mewn mynachdy.

O Nant Peris y daw Dafydd Pritchard yn wreiddiol ond mae wedi ymgartrefu yn Aberystwyth ers blynyddoedd bellach. Ef yw Pennaeth Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'n dalyrnwr brwd ac yn aelod o dîm y Cwps; ef hefyd enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr yn 1996. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, Dim ond Deud (Cyhoeddiadau Barddas), yn 2006.


Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017.