Dafydd John Pritchard

Oddi ar Wicipedia
Dafydd John Pritchard
Ganwyd1965 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Mae Dafydd John Pritchard adnebir yn fwy cyffredin fel Dafydd Pritchard neu, wrth ei enw bedydd, David John Pritchard yn brifardd ac Rheolwr Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrth ei waith.[1] Magwyd ef yn Nant Peris, Gwynedd.

Bywyd[golygu | golygu cod]

Englyn gan Dafydd John Pritchard tu allan i'r Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth

Derbyniodd ei addysg gynnar yn Ysgol Dolbadarn, Llanberis ac Ysgol Brynrefail, Llanrug, ac yna bu’n fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin ac yna dilyn cwrs mewn Llyfrgellyddiaeth yn yr hen Goleg Llyfrgellyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.[2] Mae’n gweithio fel Archifydd Cynorthwyol yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae’n aelod o dîm Talwrn y Beirdd, "Y Cŵps", a thîm ymryson Ceredigion. Mae'n byw yn Llanbadarn Fawr, Aberystwyth ac yn gynghorydd cymuned dros Blaid Cymru ar Cyngor Cymuned Llanbadarn Fawr. Mae'n Babydd gan gyfrannu i wasanaeth goffa i'r Sant John Roberts mewn gwasanaeth yn Llundain yn 2010.[3]

Ei hoff gerddi, yn ôl sgwrs gydag Heledd Cynwal ar Radio Cymru yw:

Diddordebau[golygu | golygu cod]

Englyn gan Dafydd John Pritchard a choeden goffa tu allan i'r Llyfrgell Genedlaethol

Mae'n hoff o griced a bu'n chware i dîm Ysgolion Gwynedd gan chwarae yn yr un tîm â'r cricedwr proffesiynnol i Forgannwg, Matthew Maynard.[2]

Coroni[golygu | golygu cod]

Enillodd Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Dinefwr 1996, ar y testun Olwynion gyda dilyniant o gerddi gan ddechrau gyda'r olwyn "cyntaf un" i ddatblygiad yr olwyn i fynd i'r gofod.[2]

Bardd y Mis[golygu | golygu cod]

Bu'n "Fardd y Mis" ar BBC Radio Cymru ar gyfer mis Mawrth 2015.[4]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 https://www.barddas.cymru/llyfr/y-lon-fain-dafydd-john-pritchard/
  2. 2.0 2.1 2.2 https://www.bbc.co.uk/sounds/play/p02mpg2w
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-06-16. Cyrchwyd 2019-08-23.
  4. https://www.bbc.co.uk/programmes/articles/4BDwBscMt10B72H7ZKdsGct/dafydd-johnpritchard-bardd-mawrth-2015
  5. http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781900437813&tsid=2

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]