Kenneth Newman

Oddi ar Wicipedia
Kenneth Newman
Ganwyd15 Awst 1926 Edit this on Wikidata
Sussex Edit this on Wikidata
Bu farw4 Chwefror 2017 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethheddwas Edit this on Wikidata
SwyddComisiynydd Heddlu'r Metropolis Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Croes Fawr Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Marchog Faglor Edit this on Wikidata

Heddwas o Sais oedd Syr Kenneth Leslie Newman (15 Awst 19264 Chwefror 2017) a wasanaethodd yn bennaeth Heddlu Brenhinol Wlster (yr RUC) o 1976 i 1979 a phennaeth Heddlu Llundain (y Met) o 1982 i 1987.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd yn ardal Hackney yn nwyrain Llundain yn fab i adeiladwr o'r enw John a'i wraig Florence. Magwyd Kenneth ym mhentref North Bersted yng Ngorllewin Sussex. Ymunodd â'r Awyrlu Brenhinol yn 16 oed a gwasanaethodd yn Seilón, yr India, Byrma, a Singapôr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dychwelodd i Loegr ym 1946, ac ymunodd â heddlu'r Mandad Prydeinig ym Mhalesteina i ddianc o hinsawdd oer ei gartref. Daeth y Mandad Prydeinig i ben ym 1948, a dychwelodd Newman i Loegr i ymuno â Heddlu Llundain fel cwnstabl. Y flwyddyn honno, priododd Eileen Freeman, ac yn hwyrach cawsant un mab ac un ferch. Cafodd ei ddyrchafu drwy rengoedd y llu a'i benodi'n bennaeth ar blismona cymunedol. Yn ei amser rhydd fe astudiodd ac enillodd radd yn y gyfraith o Brifysgol Llundain ym 1971.

Cyfnod yng Ngogledd Iwerddon[golygu | golygu cod]

Ceisiodd am swydd dirprwy bennaeth Heddlu Brenhinol Wlster, a'r nod o roi ei syniadau am heddlua ar waith. Aeth i Ogledd Iwerddon ym 1973, ar anterth yr Helyntion, yn ddirprwy i bennaeth yr RUC Syr Jamie Flanagan. Dyrchafwyd Newman yn bennaeth yr RUC ym 1976, a'i orchwyl oedd polisi "Wlstereiddio" sef sefydlu'r heddlu uwchlaw'r Fyddin Brydeinig wrth ymateb i lofruddiaethau a ffrwydradau yn y dalaith.

Ar y pryd, cafodd ei weld yn blismon rhyddfrydol a deallusol oedd am heddychu'r trais sectyddol yng Ngogledd Iwerddon. O dan ei arweiniad, defnyddiodd swyddogion yr RUC dechnegau holi tresigar – artaith yn ôl rhai – ar garcharorion ym marics Castlereagh. Gwadai'r cyhuddiadau gan Newman, a ddywedodd taw "propaganda" oeddynt, ond cafodd y dystiolaeth o artaith ei gadarnháu gan Amnest Rhyngwladol a'r barnwr Harry Bennett.[1] Er tactegau dadleuol ei lu, cafodd Newman ei urddo'n farchog ym 1978. Gadawodd yr RUC ym 1979 a dychwelodd i Loegr i gymryd swyddi Arolygydd Heddlu Ei Mawrhydi a phennaeth coleg swyddogion yr heddlu yn Bramshill.

Comisiynydd y Met[golygu | golygu cod]

Ym 1982, penodwyd Newman yn Gomisiynydd yr Heddlu Metropolitanaidd, sef heddlu'r brifddinas Llundain, ac felly'n bennaeth ar heddlu holl Lundain Fwyaf ac eithrio Dinas Llundain (y Filltir Sgwâr). Newidiodd arferion y llu yn sylweddol o dan ei arweinyddiaeth: ymgynghorai ag arbenigwyr rheolaeth, a chyhoeddai'r "llyfr bach glas" ar egwyddorion a safonau proffesiynol yr heddlu. Yn y llyfryn, awgrymodd Newman ei wrthwynebiad i Fasoniaeth ymhlith y rhengoedd, ac ymatebodd Seiri Rhyddion y Met drwy sefydlu cyfrinfa newydd, "Maenor Iago Sant". Cefnogodd Newman gynlluniau Gwarchod y Gymdogaeth a'r elusen Community Action Trust (a elwir bellach yn Crimestoppers, Taclo'r Taclau yn Gymraeg). Cyflwynodd ambell diwygiad radicalaidd i'r Met, mewn ymateb i adroddiad Scarman, a feirniadai'r heddlu yn sgil terfysgoedd Brixton, ac asesiad gan y Policy Studies Institute a gyhuddai'r Met o ddiwylliant hiliaeth a machismo. Rhannai a datgymalai'r adrannau oedd wedi hen galedu, a datganolai'r broses benderfynu ar sawl mater i'r ardaloedd lleol.

Bu sawl argyfwng yn ystod cyfnod Newman yn bennaeth ar y Met, gan gynnwys saethu'r dyn dieuog Stephen Waldorf ar gam (1983), saethu Cherry Groce a therfysg Brixton (Medi 1985), a therfysg Broadwater Farm a llofruddiaeth y heddwas Keith Blakelock (Hydref 1985). Ymatebodd Newman i'r terfysgoedd drwy rybuddio bydd yr heddlu yn defnyddio bwledi plastig a nwy CS yn y dyfodol. Achosai ffrae gan sylwad mewn cylchgrawn Americanaidd, a briodolir i Newman, bod pobl o dras Jamaicaidd "yn dueddol wrth natur o wrthwynebu awdurdod".[1] Ymddeolodd Newman o'r heddlu ym 1987.

Diwedd ei oes[golygu | golygu cod]

Ar ôl gadael yr heddlu, daeth Newman yn gyfarwyddwr i Control Risks, Automated Security Holdings, a'r Automobile Association. Bu farw yn 90 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Sir Kenneth Newman obituary, The Guardian (26 Chwefror 2017). Adalwyd ar 20 Ebrill 2017.