Kay Mellor
Gwedd
Kay Mellor | |
---|---|
Ganwyd | Kay Daniel 11 Mai 1951 Leeds |
Bu farw | 15 Mai 2022 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | sgriptiwr, actor, cyfarwyddwr ffilm |
Adnabyddus am | Fat Friends |
Plant | Gaynor Faye |
Gwobr/au | OBE |
Actores, sgriptiwr a chyfarwyddwr o Loegr oedd Kay Mellor OBE (née Daniel; 11 Mai 1951 — 15 Mai 2022). Roedd hi'n adnabyddus am rhaglenni teledu fel Band of Gold (1995), Fat Friends (ITV, 2000-05) a Children's Ward (1989-2000).
Cafodd Kay Daniel ei geni yn Leeds[1] yn ferch i George a Dinah.[2][3]
Ym 1967, daeth Mellor yn feichiog yn 16 oed a phriododd tad y plentyn, Anthony Mellor, a oedd yn 17 oed. Cafodd y cwpl ddwy ferch, y cynhyrchydd teledu Yvonne Francas (ganwyd 1968) a'r actores Gaynor Faye (ganwyd 1971).[4]
Dechreuodd ysgrifennu i Granada Television yn yr 1980au, ar yr opera sebon Coronation Street.[5] Ym 1989, ysgrifennodd Mellor lawer o benodau ar gyfer y gyfres sebon Channel 4 Brookside.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Hayward, Anthony (17 Mai 2022). "Kay Mellor obituary". TheGuardian.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 17 Mai 2022.
- ↑ Chaudhuri, Anita (12 November 1999). "Time of her life". The Guardian. London, UK. Cyrchwyd 18 May 2022.
- ↑ Hassell, Katherine (29 Rhagfyr 2017). "Kay Mellor: 'If it hadn't been for family, I wouldn't have survived'". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Gorffennaf 2019.
- ↑ "Mum's the word..." The Yorkshire Post (yn Saesneg). 6 Mawrth 2015. Cyrchwyd 14 Gorffennaf 2019.
- ↑ "Fat Friends writer Kay Mellor dies aged 71". ITV News (yn Saesneg). 17 Mai 2022.
- ↑ "Brookside[24/07/89] (1989)". BFI. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-05-17. Cyrchwyd 2022-05-18.