Katie Ledecky
Katie Ledecky | |
---|---|
Katie Ledecky yn Rio de Janeiro 2016 | |
Ganwyd | Kathleen Genevieve Ledecky 17 Mawrth 1997 Washington |
Man preswyl | Bethesda, Stanford, Florida |
Dinasyddiaeth | UDA |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | nofiwr |
Taldra | 183 centimetr |
Pwysau | 73 cilogram |
Tad | David Ledecký |
Perthnasau | Jon Ledecky |
Gwobr/au | L'Équipe Champion of Champions, L'Équipe Champion of Champions, Honda Sports Award for Swimming & Diving, Associated Press Athlete of the Year, Gwobr 'Hall of Fame' Merched Maryland, Associated Press Athlete of the Year |
Gwefan | https://katieledeckyswim.com/ |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Unol Daleithiau America |
Nofiwr o Unol Daleithiau America yw Kathleen Genevieve Ledecky (ganwyd 17 Mawrth, 1997). Mae ganddi 9 medal aur Olympaidd a 21 o fedalau aur o Bencampwriaeth y Byd, y mwyaf o fedalau erioed ar gyfer nofwraig. Mae hi'n cael ei chydnabod fel un o'r goreuon erioed yn y pwll.
Ledecky sy'n dal y record byd am 800m a 1500m steil rhydd, ac mi oedd hi'n dal y record ar gyfer 400m steil rhydd.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Ledecky yn Washington, D.C., a magwyd ger Bethesda, Maryland. Dechreuodd nofio yn chwech oed.[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Aeth i'w gemau olympaidd cyntaf yn Llundain, 2012 pan oedd yn 15 oed. Yn annisgwyl, enillodd y fedal aur yn 800m steil rhydd. Yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2016 yn Rio de Janeiro, cipiodd bedair medal aur ac un arian. Torrodd ddwy record byd hefyd. Enillodd dwy fedal aur a dwy fedal arian yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2020 yn Tokyo. Yn 2023, hi oedd y person cyntaf erioed i ennill chwech aur ym Mhencampwriaeth y Byd yn yr un gystadleuaeth. Yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2024, enillodd dwy fedal aur, un arian, ac un efydd.[2]
Mae hi wedi ennill cyfanswm o 50 medal (38 aur, 10 arian a 2 efydd) mewn cystadleuthau rhyngwladol yn y gemau Olympaidd, Pencampwriaeth y Byd a Pencampwriaeth Pan Pacific.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Katie Ledecky". www.teamusa.com (yn Saesneg). 2024-04-11. Cyrchwyd 2024-08-05.
- ↑ "Katie Ledecky wins ninth Olympic gold with 800m freestyle victory at Paris 2024". BBC Sport (yn Saesneg). 2024-08-03. Cyrchwyd 2024-08-05.