Katharine Ross

Oddi ar Wicipedia
Katharine Ross
GanwydKatharine Juliet Ross Edit this on Wikidata
29 Ionawr 1940, 29 Ionawr 1943 Edit this on Wikidata
Hollywood Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Las Lomas High School
  • Diablo Valley College Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, ysgrifennwr, awdur, actor llwyfan, actor teledu, awdur plant, actor ffilm, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Arddully Gorllewin Gwyllt Edit this on Wikidata
PriodJoel Fabiani, Unknown, Conrad Hall, Unknown, Sam Elliott Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran Edit this on Wikidata

Actores o Unol Daleithiau America yw Katharine Ross (ganwyd 29 Ionawr 1940) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel sgriptiwr, actor, awdur plant, actor llwyfan , actor teledu ac actor ffilm

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Ross yn Hollywood, California, ar Ionawr 29, 1940, pan oedd ei thad, Dudley Ross, yn y Llynges. Roedd hefyd wedi gweithio i'r Associated Press. Yn ddiweddarach ymgartrefodd ei theulu yn Walnut Creek, California, i'r dwyrain o San Francisco, a graddiodd o Ysgol Uwchradd Las Lomas ym 1957.[1]

Roedd Ross yn marchog brwd yn ei hieuenctid ac roedd yn ffrindiau â Casey Tibbs, marchog rodeo.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Astudiodd yng Ngholeg Iau Santa Rosa am flwyddyn (1957–1958) lle cafodd ei chyflwyno i actio trwy gynhyrchiad o The King and I. Gadawodd y cwrs a symud i San Francisco i astudio actio. Ymunodd â Gweithdy'r Actorion a bu gyda nhw am dair blynedd (1959-1962) Am un rôl yn The Balcony gan Jean Genet, ymddangosodd hi'n noethlymun ar y llwyfan. Ym 1964, cafodd ei castio gan John Houseman fel Cordelia mewn cynhyrchiad o King Lear.[3][4]

Aeth Ross ymlaen i gael gyrfa hynod lwyddiannus mewn Ffilm a theledu. Fe ymddangosodd mewn sawl sioe deledu yn y 1960au gan gwneud ei ymddangosiad ffilm cyntaf yn Shenandoah ym 1965. Llofnododd gontract gyda Universal ond gwnaeth ffilmiau gyda'r MGM hefyd.[5]

Yn 1967 enillodd enwogrwydd yn chwarae rhan Elaine Robinson yn y ffilm boblogaidd The Graduate, ochr yn ochr â Dustin Hoffman. Enillodd hi Golden Globe ac enwebiad am Oscar am y rôl yma. Enillodd Golden Globe hefyd am eu rol yn Voyage of the Damned ym 1978. Yn ddiweddarach yn ei gyrfa ymddangosodd yn Donnie Darko.[6], Don't Let Go, a fel cyn-wraig Sam Elliott yn The Hero yn 2017

Mae Ross wedi sefydlu ei hun fel awdur, gan gyhoeddi sawl llyfr plant.

Ffilmiau[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitle Rôl
1965 Shenandoah Ann
1966 The Singing Nun Nicole Arlien
1966 Mister Buddwing Janet
1967 The Longest Hundred Miles Laura Huntington
1967 Games Jennifer Montgomery
1967 The Graduate Elaine Robinson
1968 Hellfighters Tish Buckman
1969 Butch Cassidy and the Sundance Kid Etta Place
1969 Tell Them Willie Boy Is Here Lola
1970 Fools Anais Appleton
1972 Get to Know Your Rabbit Nameless Woman
1972 They Only Kill Their Masters Kate
1974 Chance and Violence Docteur Constance Weber
1975 The Stepford Wives Joanna Eberhart
1976 Voyage of the Damned Mira Houser
1978 The Betsy Sally Hardeman
1978 The Swarm Helena
1978 The Legacy Margaret Walsh
1980 The Final Countdown Laurel Scott
1982 Wrong Is Right Sally Blake
1986 Red Headed Stranger Laurie
1991 A Climate for Killing Grace Hines
1997 Home Before Dark Rose
2001 Donnie Darko Dr. Lilian Thurman
2002 Don't Let Go Charlene Stevens
2006 Eye of the Dolphin Lucy
2013 Wini + George Wini
2017 The Hero Val

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Kentucky New Era - Google News Archive Search".
  2. Bradford, Jack (June 18, 1968). "Off the Grapevine". Toledo Blade. Cyrchwyd August 10, 2010.
  3. Houseman, John (1984). Final Dress. Simon & Schuster. t. 263. ISBN 0-671-42032-1.
  4. Schumach, Murray (May 22, 1964). "Hollywood 'Lear' lures Carnovsky; Actor Blacklisted in '51 to Play Title Role at U.C.L.A." The New York Times. Cyrchwyd August 12, 2010.
  5. De Paolo, Ronald (March 1, 1968). "Sudden Stardom of the 'Graduate Girl'". Life. Cyrchwyd August 10, 2010.
  6. O'Hehir, Andrew (October 30, 2001). "Donnie Darko". Salon. Cyrchwyd August 10, 2010.[dolen marw]