K. P. Tamsang
K. P. Tamsang | |
---|---|
Ganwyd | 1915 |
Bu farw | 24 Medi 1985 |
Dinasyddiaeth | India, Dominion of India |
Galwedigaeth | geiriadurwr |
Ieithydd ac ysgolhaig Lepcha a gysegrodd ei fywyd i astudio'r iaith Lepcha a diwylliant a thraddodiadau ei bobl oedd K. P. Tamsang (1915, Kalimpong - 24 Medi 1985, Gangtok). Roedd o hefyd yn ymgyrchydd diflino dros hawliau'r bobl Lepcha, pobl brodorol Sikkim, Darjeeling a'r cylch, yng ngogledd-ddwyrain India.
Roedd yn fab hynaf i Sando Tshering Tamsang, arweinwr Lepcha yn Bom, Kalimpong. Cafodd ei addysg yn Kalimpong lle daeth yn Ysgrifennydd Cymdeithas y Lepcha (Lepcha Association) ar ddiwedd y 1940au. Yn y 1950au, enillodd ysgoloriaeth i fynd i astudio ym Mhrifysgol Llundain lle cynorthwyodd y Tibetolegydd R. K. Sprigg yn ei astudiaethau ar iaith a diwylliant y Lepcha.
Ar ôl dychwelyd i Kalimpong treuliodd Tamsang ei amser yn astudio'r iaith Lepcha a'i llenyddiaeth. Ymroddodd hefyd i gefnogi a hyrwyddo achos y Lepcha, yn arbennig y rhai tlawd a difreintiedig, a cheisio sicrhau eu hawliau dinesig. Ei brif waith ysgolheigaidd yw ei eiriadur Lepcha-Saesneg, clamp o gyfrol o dros fil o dudalennau, a gyhoeddwyd yn 1980. Ysgrifennodd sawl llyfr yn yr iaith Lepcha yn ogystal, e.e. casgliad o chwedlau gwerin.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
- K. P. Tamsang (gol.), The Lepcha-English Encyclopaedic Dictionary (Mayel Clymit Tamsang, Kalimpong, 1980).
- K. P. Tamsang, The Unknown and Untold Reality about the Lepchas (Lyangsong Tamsang, Kalimpong, 1983; ail argraffiad, 1998)
- K. P. Tamsang (cyf.), A collection of Lepcha folk tales (Kalimpong, d.d.)