Jutta Ditfurth

Oddi ar Wicipedia
Jutta Ditfurth
GanwydJutta Gerta Armgard von Ditfurth Edit this on Wikidata
29 Medi 1951 Edit this on Wikidata
Würzburg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaethnewyddiadurwr, gwleidydd, ysgrifennwr, cymdeithasegydd Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolThe Greens, Chwith Ecolegol Edit this on Wikidata
TadHoimar von Ditfurth Edit this on Wikidata
LlinachDitfurth Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.jutta-ditfurth.de/ Edit this on Wikidata

Awdures o'r Almaen yw Jutta Ditfurth (ganwyd 29 Medi 1951) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, gwleidydd, awdur a chymdeithasegydd.

Bywyd[golygu | golygu cod]

Ganwyd Jutta Gerta Armgard von Ditfurth i deulu bonheddig Ditfurth, yn ferch i ffisegydd o'r Almaen a'r newyddiadurwraig Hoimar von Ditfurth; y mae'n chwaer i'r hanesydd Christian von Ditfurth. Yn 1978 ceisiodd newid ei henw er mwyn hepgor yr elfen 'von' ond gwrthododd yr awdurdodau gydnabod y newid hwn. Fodd bynnag, fe'i hadwaenir ledled yr Almaen wrth ei chyfenw plaen, Ditfurth. Bu'n weithredol yn wleidyddol o fewn mudiad y Chwith Newydd ers yr 1970au cynnar, gan ymuno gyda grwpiau rhyng-genedlaetholaidd a ffeministaidd yn ogystal â mudiad Gwyrdd a'r mudiad gwrth-niwclear. Mae'n byw ar hyn o bryd yn Frankfurt. Cyhoeddodd nifer o weithiau, ac ar y cyfan nid yw'r rhain wedi eu cyfieithu i'r Saesneg. Yn eu plith mae Der Baron, die Juden und die Nazis. Reise in eine Familiengeschichte. Hoffmann und Campe, Hamburg 2013, sy'n ymwneud â chysylltiadau teuluol i Natsïaeth cyn 1945.

Addysg a gyrfa[golygu | golygu cod]

Astudiodd Ditfurth hanes celf, cymdeithaseg, gwleidyddiaeth wyddonol, hanes economaidd ac athroniaeth yn yr Almaen, yr Alban, UDA ac ym mhrifysgolion Heidelberg, Hamburg, Freiburg, Glasgow, Detroit a Bielefeld, gan raddio fel cymdeithasegydd yn 1977. Wedi iddi raddio'n derfynol bu'n gweithio fel cymdeithasegydd, newyddiadurwraig, ac awdur a hefyd fel gweithiwr sifft. Tua 1980 daeth yn aelod o'r Blaid Werdd, a oedd newydd ei sefydlu yn yr Almaen. Yn yr wythdegau, gofynnwyd iddi ymgymryd â gwaith i'r CIA ond gwrthododd. Tuag at ddiwedd yr wythdegau dechreuodd fod yn feirniadol iawn o gyfeiriad Plaid Werdd yr Almaen, ac fe'i disgrifiwyd ganddi fel gwrthchwyldroadol, hierarchaidd anepotistaidd; gadawodd y Gwyrddion yn 1991.[1][2][3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "European Reports: Radical Ecology after the German Greens". Institute for Social Ecology: Left Green Perspectives #25. 1992-01-01. Cyrchwyd 2013-01-20.
  2. Jutta Ditfurth. "Zahltag, Junker Joschka! (Payday, Junker Joschka!) [German pdf]" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-09-17. Cyrchwyd 2013-01-20.
  3. "Jutta Ditfurth and extraparliamentary movements of the seventies". Communimedia+. Cyrchwyd 2013-01-20.