Julie Christie
Gwedd
Julie Christie | |
---|---|
Ganwyd | Julie Frances Christie 14 Ebrill 1940 Chabua |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor ffilm, actor llwyfan, actor llais |
Priod | Duncan Campbell |
Gwobr/au | Gwobr yr Academi am yr Actores Orau |
Actores Seisnig ydy Julie Frances Christie (ganed 14 Ebrill 1941). Fe'i ganwyd yn yr India Brydeinig i rieni Seisnig a symudodd i Loegr pan oed yn chwe mlwydd oed, lle mynychodd ysgol breswyl.
Ym 1961, dechreuodd ei gyrfa actio mewn cyfres deledu i'r BBC a'r flwyddyn ganlynol cafodd ei rhan mawr cyntaf mewn comedi ramantaidd. Ym 1965 daeth yn adnabyddus i gynulleidfaoedd rhyngwladol fel y model "Diana Scott" yn y ffilm Darling. Y flwyddyn honno hefyd chwaraeodd ran "Lara" yng nghynhyrchiad David Lean o Doctor Zhivago. Fe'i hystyriwyd hefyd yn eicon pop Llundain yn ystod y 1960au. Enillodd Wobr yr Academi, Golden Globe, BAFTA, a Gwobr Cymdeithas yr Actorion Sgrîn.