Neidio i'r cynnwys

Julian Tudor Hart

Oddi ar Wicipedia
Julian Tudor Hart
Ganwyd9 Mawrth 1927 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw1 Gorffennaf 2018 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethmeddyg, llenor, cymdeithasegydd Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol Prydain Fawr Edit this on Wikidata
TadAlex Tudor-Hart Edit this on Wikidata
Gwobr/auFellow of the Royal College of General Practitioners, Cymrawd Coleg Brenhinol y Meddygon Llundain Edit this on Wikidata

Roedd Alan Julian Macbeth Tudor-Hart FRCGP FRCP (9 Mawrth 19271 Gorffennaf 2018), a oedd yn cael ei adnabod yn gyffredin fel Julian Tudor Hart, yn feddyg a oedd yn gweithio fel ymarferydd cyffredinol (meddyg teulu) yng Nghymru am 30 mlynedd. Roedd yn ymwneud ag ymchwil meddygol ac ysgrifennodd nifer o lyfrau ac erthyglau gwyddonol.

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Cafodd Hart ei eni yn Llundain ar 9 Mawrth 1927, yn fab i Dr Alexander Tudor-Hart a Dr Alison Macbeth. Bu'n astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt ac yn Llundain, gan raddio ym 1952.[1]

Roedd yn ddisgynnydd o'r dyn busnes Americanaidd Frederic Tudor ac o Ephraim Hart, Iddew o Bafaria  a ddaeth yn fasnachwr amlwg  yn Efrog Newydd, ac yn bartner busnes, yn ôl pob tebyg efo John Jacob Astor. Enw gwreiddiol y teulu oedd Hirz.[2][3][4]

Priododd ei dad-cu, yr artist o Ganada Percyval Hart, ei gyfnither pwylig ffrangig  Éléonora Délia Julie Aimée Hart Kleczkowska, gan newid cyfenw'r teulu i Tudor-Hart. Roedd Kleczkowska yn ferch i'r diplomydd Michel Alexandre Cholewa, comte Kleczkowski (Michal Kleczkowski; 1818-1886) ac yn orwyres i Julie Sobieska, ddisgynnydd uniongyrchol o John III Sobieski, brenin gwlad Pwyl yn y 17g.[5][6]

Roedd yn aelod o Gymdeithas Sigerist, cymdeithas feddygol gomiwnyddol, o 1947 hyd 1955.

Ymunodd Hart â Phlaid Gomiwnyddol Prydain Fawr, a safodd yn aflwyddiannus fel ymgeisydd y blaid yn etholaeth Aberafan yn etholiadau cyffredinol 1964, 1966 a 1970.[7]

Bu'n gweithio am 30 mlynedd fel ymarferydd cyffredinol yng Nglyncorrwg, Gorllewin Morgannwg, lle fu Brian Gibbons, yn ddiweddarach gweinidog iechyd Cymru, yn un o'i bartneriaid. Roedd Dr Hart yn gysylltiedig ag ymchwil epidemiolegol, gyda Richard Doll ac Archie Cochrane. Bu'n eiriolwr angerddol dros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sosialaeth. Fe wasanaethodd fel Llywydd y Gymdeithas Iechyd Sosialaidd.[8]

Roedd yn Gymrawd o Goleg Brenhinol y meddygon teulu (RCGP) a Choleg Brenhinol y Ffisigwyr (RCP).[9]

Yn 2006, dyfarnwyd y Wobr Darganfod cyntaf i'w dyranu iddo[10] gan yr RCGP am fod yn "ymarferydd cyffredinol sydd wedi dal dychymyg cenedlaethau o feddygon teulu gyda'i ymchwil arloesol". Ei feddygfa yng Nglyncorrwg oedd y cyntaf yn y DU i gael ei gydnabod fel meddygfa ymchwil. Bu'r practis yn treialu sawl astudiaeth gan y Cyngor Ymchwil Meddygol. Ef oedd y meddyg teulu cyntaf i fesur pwysedd gwaed pob claf yn rheolaidd, ac fel canlyniad roedd yn gallu i leihau marwoldeb cynamserol mewn cleifion risg uchel yn ei bractis o 30%. Graham Watt, Athro Ymarfer Cyffredinol, Prifysgol Glasgow, a enwebodd Dr Tudor Hart ar gyfer y wobr. Meddai'r athro yn ei enwebiad: "Mae ei syniadau a'i esiampl yn treiddio trwy ymarfer cyffredinol modern ac yn parhau i fod ar flaen y gad o ran meddwl ac ymarfer ym maes gwella iechyd mewn gofal sylfaenol. Mae ei waith ar bwysedd gwaed uchel yn dangos mae ansawdd cofnodion, gwaith tîm ac ymchwil yw'r allwedd i wella iechyd. Ei ymrwymiad trwy'i oes i'r tasgau dyddiol o ymarfer cyffredinol bob amser wedi rhoi amlygrwydd a hygrededd i'w gwaith a'i farn ymysg cyd ymarferwyr cyffredinol. Mae Julian Tudor Hart wedi bod yn ac yn parhau i fod yn ysbrydoliaeth i ymarferwyr iechyd a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu."

Ysgrifennodd nifer o lyfrau ac erthyglau gwyddonol. Mae ei lyfr olaf, The Political Economy of Health Care: A Clinical Perspective yn edrych ar sut gellid ail drefnu'r GIG i fod yn wasanaeth trugarog i bawb (yn hytrach nag un sy'n rhoi elw i rai) ac yn ddylanwad gwar ar y gymdeithas gyfan. Mae'r llyfr yn rhoi 'darlun mawr' ar gyfer myfyrwyr, academyddion, gweithwyr iechyd proffesiynol a defnyddwyr y GIG  roedd Tudor Hart yn gobeithio y byddid yn eu hysbrydoli nhw i herio'r farn gyffredinol ynghylch sut y dylai'r GIG datblygu yn yr 21ain ganrif.

Mae ei weithiau eraill yn cynnwys llawer o erthyglau ar reoli pwysedd gwaed uchel ac ar drefnu gwasanaethau iechyd. Mae ei waith mwyaf dylanwadol The Inverse Care Law, a gyhoeddwyd yn y Lancet ym 1971 yn datgan: "Bod argaeledd gofal meddygol da yn tueddu i amrywio yn groes i'r angen ar gyfer y boblogaeth a wasanaethir. Mae gofal anghyfartal yn gweithredu yn fwyaf cyflawn  lle mae gofal meddygol yn llwyr agored i rymoedd y farchnad, ac yn llai felly, lle bo amlygiad o'r fath yn cael ei leihau."

Cyhoeddiadau

[golygu | golygu cod]

Erthyglau gwyddonol

[golygu | golygu cod]

Llyfrau

[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Moorhead, Robert (March 2004). Hart of Glyncorrwg. 97. pp. 132–136. doi:10.1258/jrsm.97.3.132. http://jrs.sagepub.com/cgi/content/full/97/3/132. Adalwyd 8 Gorffennaf 2014.
  2. Percyval Tudor-Hart, 1873–1954: Portrait of an Artist MacGregor, Alasdair Alpin, 1961, P. R. Macmillan adalwyd 1 Gorffennaf 2018
  3. "HART". Jewish Encyclopedia.
  4. TUDOR-HART (PDF). The Jacob Rader Marcus Center of the American Jewish Archives. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-11-24. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2018.
  5. Lijewska, Elżbieta (2016). "Kuzynki Norwida: Euphemia Tudor Kleczkowska i Ketty Kleczkowska-Kierkpatrick". Studia Norwidiana (yn Pwyleg). tt. 169–185. doi:10.18290/sn.2016.34-9.
  6. Tudor, John (1896). Deacon Tudor's Diary; Or, Memorandoms from 1709, &c (yn Saesneg). Press of W. Spooner. t. 26. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2018.
  7. Graham Stevenson, "Tudor Hart Julian", Compendium of Communist Biography
  8. "Dr Julian Tudor Hart". Socialist Health Association. 4 March 2012. Cyrchwyd 8 Mehefin 2014.
  9. Nursing Times, Nursing Mirror (yn Saesneg). Macmillan Journals. 1993. t. 57. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2018.
  10. "General Practice research". Royal College of General Practitioners. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-01. Cyrchwyd 8 Mehefin 2014.