Judith Owen

Oddi ar Wicipedia
Judith Owen
Owen yn Mission Viejo, Califfornia, Ebrill 2017
Y Cefndir
Ganwyd (1969-01-02) 2 Ionawr 1969 (55 oed)
Llundain
GwaithCanwr-gyfansoddwr
Cyfnod perfformio1996–presennol

Canwr-gyfansoddwr o Gymraes yw Judith Owen (ganwyd 2 Ionawr 1969[1][2]). Rhyddhawyd ei halbwm cyntaf yng Ngogledd America, Emotions on a Postcard, ym 1996 ac mae sawl albwm arall wedi ei ddilyn. Mae hi'n gyd-sylfaenydd label Twanky Records gyda'i gŵr, Harry Shearer.[3]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Fe'i ganwyd yn Llundain yn ferch i'r canwr opera Handel Owen a'i wraig Millicent. Mae'n ystyried ei hun yn Gymraes ac mae ei theulu estynedig yn byw yn Llanelli, Cydweli a Llangennith.[4] Dysgodd ganu'r piano a cychwynodd gyfansoddi caneuon yn ei arddegau. Pan ddaeth yn gerddor proffesiynol, cyfarfu yr actor a cerddor Harry Shearer a cyfrannodd i'w albwm It Must Have Been Something I Said (1994).[5] Priododd y cwpl ar 28 Mawrth 1993.[6]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Mae hi wedi recordio a theithio gyda Richard Thompson yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig ar recordiad a thaith 1000 Years of Popular Music . Mae hi hefyd wedi ymddangos ar ei albymau The Old Kit Bag a Sweet Warrior.

Ymddangosodd Owen fel hi ei hun ar The Simpsons yn y bennod "The Blunder Years".

Ar 10 Chwefror 2011 ymddangosodd ar BBC Breakfast ochr yn ochr â Ruby Wax, gan hyrwyddo eu sioe newydd, Losing It .

Ei 10fed albwm stiwdio yw Ebb & Flow. Rhyddhawyd ar 7 Ebrill (DU) a 6 Mai 2014 (UDA a Chanada), ac mae'n cynnwys Leland Sklar ar fas a Russell Kunkel ar y drymiau - y ddau yn gyn-aelodau o'r The Section - a Waddy Wachtel ar y gitâr. Ebb & Flow oedd ei halbwm cyntaf i gael ei ryddhau a'i hyrwyddo ledled Ewrop a derbyniodd glod beirniadol gan The Independent (UK), The Sunday Times, Le Figaro (Ffrainc), La Repubblica (yr Eidal), CronacaTorino.it (yr Eidal), BT ( Denmarc), a Rolling Stone (yr Almaen) gyda chwarae radio gan RTE Radio 1 (Iwerddon), BBC Radio 2, RTVE Radio 3 (Sbaen), P5 (Denmarc) ac YLE Radio Suomi (Y Ffindir).

Yn 2015 fe’i gwahoddwyd i gefnogi Bryan Ferry ar ei daith ledled y DU. Cafodd yLondon Royal Albert Hall Show ar 1 Mehefin ei ganslo ar y funud olaf oherwydd bod gan Ferry haint ar ei wddf. Roedd sawl newyddiadurwr yn bresennol i'w hadolygu a gwnaed penderfyniad byrfyfyr i'w gwahodd i gyd i'w chartref yn Llundain, lle perfformiodd y set yn acwstig. Cyhoeddodd yr Independent erthygl y diwrnod canlynol gan dynnu sylw ati fel rhan o eitem ar sioeau ystafell fyw.[7] Perfformiodd yng Ngŵyl Cropredy yn Swydd Rhydychen a Gŵyl MadGarden ym Madrid.

Yn 2016 rhyddhaodd Owen yr albwm Somebody's Child yn y DU, Ewrop, Awstralia a Japan. Ym mis Mehefin 2016, arddangosodd yr albwm ym Melbourne a Sydney i adolygiadau gwych gan gynnwys Noise11.com. Yr un flwyddyn, perfformiodd Owen a Harry Shearer gyda'i gilydd yn Brisbane ac yng Ngŵyl Cabaret Adelaide gyda sioe newydd o'r enw This Infernal Racket, a greodd sylw mawr yn y cyfryngau i hyn yn ogystal â'i halbwm.  

Dychwelodd y sioe elusennol flynyddol 2016, Christmas Without Tears, i Lundain ynghyd ag Efrog Newydd, Chicago, Los Angeles a New Orleans.

Yn Mai 2018 rhyddhaodd ei halbwm redisCOVERed ledled y byd, yn perfformio ei fersiwn hi o ganeuon adnabyddus. Roedd y caneuon yn cynnwys Deep Purple "Smoke On The Water", Soundgarden "Black Hole Sun"; o glasuron o Donna Summer "Hot Stuff", Wild Cherry "Play That Funky Music" i ganeuon cyfoes Drake "Hotline Bling", Ed Sheeran "Shape Of You" a cwpl o ganeuon llai adnabyddus Joni Mitchell "Cherokee Louise" a "Ladies 'Man". Tethiodd yng Ngogledd America ac Ewrop yn 2018.

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

Albymau[golygu | golygu cod]

  • Emotions On A Postcard (1996), Dog On The Bed Music
  • Limited Edition (2000), Dog On The Bed Music
  • Twelve Arrows (2003), Dog On The Bed Music
  • Lost And Found (2005), Courgette
  • Here (2006), Courgette
  • Happy This Way (2007), Courgette
  • Mopping Up Karma (2008), Courgette
  • The Beautiful Damage Collection (2010), Courgette
  • Some Kind Of Comfort (2012), Courgette
  • Ebb & Flow (2014), Twanky Records
  • Somebody's Child (2016), Twanky Records
  • Rediscovered (2018), Twanky Records

Senglau[golygu | golygu cod]

  • Creatures Of Habit (2008), Courgette Records
  • White Christmas (with Julia Fordham) (2013), Little Boo Records
  • In The Summertime (2014), Twanky Records
  • Hot Stuff (2017), Twanky Records

EP[golygu | golygu cod]

  • Christmas In July (2004), Century of Progress Productions

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Mainwaring, Rachel (2 January 2009). "Homecoming concert for Welsh singer Judith Owen". walesonline. Cyrchwyd 7 July 2017.
  2. Grove, Lloyd (2014-05-07). "Married To Mr Burns: Life, Love, And Jealousy In The Music Of Judith Owen". The Daily Beast. Cyrchwyd 2017-07-07.
  3. Mainwaring, Rachel (2009-01-23). "Homecoming concert for Welsh singer Judith Owen". walesonline. Cyrchwyd 2017-07-07.
  4. Songs in the key of Judith Owen's life (en) , WalesOnline, 12 Ebrill 2014. Cyrchwyd ar 23 Rhagfyr 2019.
  5. Everyone's somebody's child says singer Judith Owen (en) , The Irish News, 24 Hydref 2016. Cyrchwyd ar 23 Rhagfyr 2019.
  6.  Comedian Harry Shearer on When Marriage is a Punchline. Newsweek (9 Gorffennaf 2012).
  7. "House music: The performers who are now staging gigs in living-rooms". The Independent (yn Saesneg). 2015-11-12. Cyrchwyd 2017-10-25.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]