Juan Zorrilla de San Martín

Oddi ar Wicipedia
Juan Zorrilla de San Martín
Ganwyd28 Rhagfyr 1855 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
Bu farw3 Tachwedd 1931 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethWrwgwái Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, diplomydd, gwleidydd, barnwr, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
SwyddMember of the Chamber of Deputies of Uruguay, llysgennad Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Universidad de la República Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolCivic Union Edit this on Wikidata
PlantJosé Luis Zorrilla de San Martín Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch-Groes Urdd Isabel la Católica, Uwch Croes Urdd Siarl III Edit this on Wikidata
llofnod

Bardd Sbaeneg a diplomydd o Wrwgwái oedd Juan Zorrilla de San Martín (28 Rhagfyr 18553 Tachwedd 1931) sy'n nodedig am ei arwrgerddi "Tabaré" (1886), a ystyrir yn gerdd genedlaethol yr Wrwgwaiaid, a La leyenda patria (1879).

Ganwyd ym Montevideo a chafodd ei addysg mewn ysgolion yr Iesuwyr yn Santiago de Chile, Santa Fé yn yr Ariannin, a Montevideo.

Cyhoeddodd ei waith cyntaf, Notas de un himno, yn 1876. Mae'r gwaith hwnnw yn ymdrin â themâu tristwch a gwladgarwch, ac yn dangos dylanwad y bardd Rhamantaidd o Sbaenwr, Gustavo Adolfo Becquer. Sefydlodd Zorrilla de San Martín gylchgrawn Catholig, El bien público, yn 1878.

Yn 1879 cyhoeddodd ei arwrgerdd wladgarol La leyenda patria, sy'n traddodi hanes y Tri Dwyreiniad ar Ddeg ar Hugain a wrthryfelasant yn erbyn Ymerodraeth Brasil yn 1825. Cyfansoddodd arwrgerdd hanesyddol arall, Tabaré, sy'n canu chwedl am serch y bachgen Tabaré, un o frodorion y Banda Oriental, a'r Sbaenes Blanca. Ysgrifennodd y gerdd yn 1886, a chyhoeddwyd yn 1888. Cafodd ei golygu ganddo sawl gwaith cyn iddo gyhoeddi'r argraffiad terfynol yn 1926.[1]

Gwasanaethodd mewn sawl swydd lywodraethol yn ystod ei oes, gan gynnwys llysgennad Wrwgwái i Ffrainc, Portiwgal, Sbaen, a'r Babaeth. Bu farw ym Montevideo yn 75 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Juan Zorrilla de San Martín. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Mai 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Rimaelvo A. Ardoino, La prosa de Juan Zorrilla de San Martín (1945).
  • Domingo L. Bordoli, Vida de Juan Zorrilla de San Martín (1961).
  • Jorge Oscar Pickenhayn, El amplio mundo de Juan Zorrilla de San Martín: sus aportes en materia literaria (verso y prosa), filosófica, teatral, historiográfica, pictórica y musicológica (Montevideo: Barreiro y Ramos Editores, 1992).