Juan Ginés de Sepúlveda
Juan Ginés de Sepúlveda | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 11 Mehefin 1490 ![]() Córdoba ![]() |
Bu farw | 17 Rhagfyr 1573 ![]() |
Dinasyddiaeth | Sbaen ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, gwleidydd ![]() |
Athronydd a diwinydd Catholig Sbaenaidd ac ysgolhaig o ddyneiddiwr oedd Juan Ginés de Sepúlveda (1494 – 1573).
Ym 1515 symudodd o Córdoba i'r Eidal ac ymunodd â'r Coleg Sbaenaidd ym Mhrifysgol Bologna. Yno fe weithiodd dan yr athronydd Aristotelaidd Pietro Pomponazzi, ac erbyn 1526 Sepúlveda oedd cyfieithydd swyddogol gweithiau Aristoteles ar gyfer Llys y Pab. Treuliodd ugain mlynedd yn yr Eidal yn casglu, cyfieithu, a chyhoeddi gweithiau Aristoteles.
Yn ei ymgom Democrates alter de justis belli causis apud Indos (1550) mae'n amddiffyn hawl Coron Castilia i wladychu'r Byd Newydd ac i orchfygu'r bobloedd frodorol yno. Galwodd ar syniadaeth Aristoteles, gan gynnwys athrawiaeth yr aristocratiaeth naturiol, i gyfiawnhau ei safbwyntiau. Dadleuodd hefyd bod ymledu gwareiddiad Catholig a masnach Ewropeaidd yn ymgyrch elusennol a oedd o fudd i'r brodorion.[1] Erfyniai Cyngor yr Indes arno am ei farnau ynglŷn ag imperialaeth y Sbaenwyr yn y Byd Newydd, a chafodd Sepúlveda ddadl gyhoeddus yn erbyn Bartolomé de las Casas yng Nghyngor Valladolid (1550–51).
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ (Saesneg) "Sepúlveda, Juan Ginés De (1490?–1574)" yn Europe, 1450 to 1789: Encyclopedia of the Early Modern World. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 18 Mehefin 2020.
- Athronwyr Catholig Sbaenaidd
- Athronwyr y Dadeni
- Athronwyr Sbaenaidd yr 16eg ganrif
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bologna
- Diwinyddion Sbaenaidd yr 16eg ganrif
- Dyneiddwyr Sbaenaidd
- Genedigaethau 1494
- Llenorion Lladin y Dadeni
- Llenorion Sbaenaidd yr 16eg ganrif
- Marwolaethau 1573
- Ysgolheigion Sbaenaidd yn yr iaith Ladin