Josiah Boydell
| Josiah Boydell | |
|---|---|
| Ganwyd | 18 Ionawr 1752 Penarlâg |
| Bu farw | 27 Mawrth 1817 Shepperton |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | arlunydd, gwneuthurwr printiau, print publisher, gwerthwr printiau |
| Perthnasau | John Boydell |
Arlunydd o Loegr a anwyd yng Nghymru oedd Josiah Boydell (8 Ionawr 1752 - 27 Mawrth 1817).
Cafodd ei eni ym Mhenarlâg, Sir y Fflint, yn 1752 a bu farw yn Shepperton, Lloegr. Cofir Boydell am fod yn ysgythrydd blaenllaw, yng nghwmni ei ewythr enwog, John Boydell ac am brosiect celf (Boydell Shakespeare Gallery) a sefydlodd.
Roedd yn fab fferm, y pedwerydd plentyn i Samuel Boydell (1727–1783), a'i wraig Ann, née Turner (1725–1764). Ym 1766, yn 14 oed, symudodd i Lundain i ddechrau ei brentisiaeth saith mlynedd i frawd Samuel, John Boydell. Tra'n brentis yno, dysgodd baentio gan Benjamin West ac engrafiad mezzotint gan Richard Earlom.[1][2]
Ar ôl cwblhau ei brentisiaeth, parhaodd i weithio'n agos gyda John Boydell, gan wneud rhai ysgythriadau ei hun a thynnu golygfeydd i arlunwyr eraill. Bu hefyd yn arddangos yn yr Academi Frenhinol rhwng 1772 a 1779. Un o'i brif dasgau cynnar oedd llunio casgliad lluniau Syr Robert Walpole yn Houghton Hall, Norfolk, cyn allforio'r lluniau i Gatrin Fawr o Rwsia. Gweithiodd Boydell ar y prosiect hwn gyda Joseph a George Farington. Tra yn Norfolk, cyfarfu a phriododd (ar 6 Rhagfyr 1774) Jane North, merch Syr Roger North. Cafodd y ddau nifer o blant. Yn ddiweddarach, roedd un mab, John North Boydell, yn ymwneud â chwmni cyhoeddi'r teulu.[3]
