John Thomas Rees

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Thomas Rees
John Thomas Rees Mus Bac.jpg
Ganwyd 14 Tachwedd 1857 Edit this on Wikidata
Cwmgïedd Edit this on Wikidata
Bu farw 14 Hydref 1949 Edit this on Wikidata (91 oed)
Pen-y-garn Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Cerddor, glöwr Edit this on Wikidata
Plant Thomas Ifor Rees Edit this on Wikidata

Roedd John Thomas Rees (14 Tachwedd, 185714 Hydref, 1949) yn gerddor, cyfansoddwr ac athro cerddoriaeth Cymreig.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Rees yn Llwynbedw, ger Cwmgïedd, Sir Frycheiniog yn fab hynaf Thomas Rees, glöwr, a Hannah (née Morgan) ei wraig. Cafodd ei fedyddio yn John Morgan Rees, ond ffeiriodd yr enw canol Morgan am Thomas, enw ei dad, i osgoi drysu rhyngddo ef a chydweithiwr iddo o'r enw John Morgan. Bu farw ei fam pan oedd tua 5 mlwydd oed a chafodd ei fagu gan rieni ei fam ar fferm Llwynbedw, Ystradgynlais.[2]

Glöwr[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn naw mlwydd oed aeth Rees i weithio ym maes glo'r Rhondda gyda'i dad. Bu bron iddo golli ei fywyd pan gafodd ei ddal lawr ar reiliau'r wagenni, gyda choes wedi'i dorri, wedi i lo disgyn o nenfwd y pwll. Erbyn 1876 roedd wedi symud o byllau'r Rhondda i weithio mewn pwll yng Nghwmaman.

Cerddor[golygu | golygu cod y dudalen]

Tra yn fachgen yng Nghwmgïedd mynychodd Rees ddosbarthiadau tonic sol-ffa Phylip Thomas. Wedi profi'n fedrus yn y maes dechreuodd cynnal ei ddosbarthiadau ei hun a bu'r arweinydd Daniel Protheroe ymysg ei ddisgyblion. [3] Wedi symud i Gwmaman dechreuodd cynnal dosbarth sol-ffa yn Soar, capel Methodistiaid y pentref. [4]

Yn ei gyfnod yng Nghwmaman enillodd Tystysgrif Uwch y Coleg Sol-ffa a chafodd peth lwyddiant eisteddfodol, arweiniodd hyn at godi tysteb leol er mwyn iddo gael mynychu Prifysgol Aberystwyth i gael hyfforddiant cerddorol pellach o dan Joseph Parry.[5] Aeth Rees i Emporia, Kansas am flwyddyn ym 1882 i barhau a'i addysg gerddorol. Enillodd gradd Mus. Bac. fel myfyriwr allanol o Brifysgol Toronto ym 1889 .[2]

Capel y Garn, Pen-y-garn

I ategu at ei incwm bu'n cynnal dosbarthiadau cerddorol yng Nghapel y Garn, Pen-y-garn, wedi ei gymeradwyo ar gyfer y swydd gan gerddor arall o Sir Frycheiniog David Jenkins, Mus. Bac.

Wedi dychwelyd i Gymru o Kansas cafodd swydd yn dysgu cerddoriaeth i oedolion yn Aberystwyth a swydd rhan amser fel athro cerddoriaeth yn Ysgol Tregaron. Bu hefyd yn athro rhan amser ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ym 1885 enillodd Rees wobr o £20 (swm sylweddol ar y pryd) am gyfansoddi pedwarawd i offerynnau llinynnol ar gyfer eisteddfod genedlaethol Aberdâr. [6] Ym 1892 penodwyd Rees yn brif arholwr graddau cerddorol Gorsedd y Beirdd, gan bara yn y swydd am sawl blwyddyn. [7] Bu hefyd yn feirniad rheolaidd mewn nifer fawr o eisteddfodau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.

Gyda chyfnod ei yrfa fel cerddor yng nghyd daro a'r cyfnod pan fu cymanfaoedd canu'r capeli Cymraeg ar eu hanterth, bu galw reolaidd ar Rees i arwain cymanfaoedd ledled Cymru. Er gwaethaf ei brysurdeb fel beirniad ac arweinydd, llwyddodd canfod yr amser i wasanaethu fel blaenor, organydd ac athro ysgol Sul yng Nghapel y Garn am dros 40 mlynedd. [7].

Cyfansoddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfansoddodd Rees nifer o ddarnau o gerddoriaeth glasurol gan gynnwys:

  • Duw sydd Noddfa
  • Y Teulu Dedwydd’ (cantata)
  • Crist yr Andes (cantata i blant)
  • Cantawd yr ysgol (cantata i blant)
  • Hosannah
  • Christos
  • Pedwarawd Llinynnol (1895)
  • Y Trwbadŵr (seiliedig ar eiriau yng ngwaith Dafydd ap Gwilym)
  • Hillsides of Wales (i feiolin a phiano).

Cyfansoddodd a threfnodd nifer o emyn donau. Y mae rhai ohonynt yn dal i gael eu canu ac yn ymddangos yn Caneuon Ffydd y llyfr emynau traws enwadol a gyhoeddwyd yn 2001: [8]

  • Brynhyfryd (trefniant) (Y Gwaed a rhedodd ar y groes)
  • Caernarfon (trefniant)
  • Cwm-nedd (trefniant)
  • Emyn Gosber (Pan fo’n blynyddoedd ni'n byrhau, pan fo'r cysgodion draw'n dyfnhau)
  • Glanhafren (trefniant)
  • Penparc (A'i am fy meiau i, dioddefodd Iesu mawr)

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd Elizabeth Davies, Bronceiro, Llanfihangel Gennau'r Glyn ar 20 Mai 1881, [9] cawsant wyth o blant. Ymysg eu plant oedd Dr Thomas Ifor Rees llysgennad Prydain i Bolifia

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw ym Mhen-y-garn, Ceredigion ychydig yn brin o 92 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym Mynwent y Garn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]