John Ormond
John Ormond | |
---|---|
Ganwyd | 1923 Dynfant |
Bu farw | 1990, 4 Mai 1990 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, sgriptiwr |
Gwobr/au | Gwobr Cholmondeley |
Roedd John Ormond (1923 – 1990) yn fardd yn yr iaith Saesneg a chyfarwyddwr ffilm o dde Cymru.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd Ormond yn Nynfant, ger Abertawe, a chafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Abertawe. Ymunodd â staff y cylchgrawn newyddion poblogaidd Picture Post yn 1945. Dychwelodd i'w fro yn 1949 ac, yn 1957, dechreuodd ar yrfa ddisglair gyda BBC Cymru fel cyfarwyddwr a chynhyrchydd ffilmiau dogfen.
Dychwelodd Ormond i sgwennu barddoniaeth ganol y chwedegau, ar ôl dinistrio'r rhan fwyaf o'i gerddi cynnar. Cyhoeddwyd un o'i gyfrolau cyntaf Requiem and Celebration yn 1969, ac yn 1973 cyhoeddwyd Definition of a Waterfall gan Llyfrau Penguin yn ei gyfres Penguin Modern Poets. Cyhoeddwyd detholiad o'i gerddi yn 1987.
Roedd Ormond yn gyfaill i feirdd ac arlunwyr fel Dylan Thomas, y nofelydd Gwyn Thomas, yr arlunwyr Ceri Richards, Graham Sutherland, a Kyffin Williams, a'r cyfansoddwr Daniel Jones.