Joanna Cole
Joanna Cole | |
---|---|
Ganwyd | 11 Awst 1944 Newark |
Bu farw | 12 Gorffennaf 2020 o ffibrosis ysgyfeiniol idiopathig Sioux City |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, llyfrgellydd, awdur plant |
Awdures plant o'r Unol Daleithiau oedd Joanna Cole (11 Awst 1944 – 12 Gorffennaf 2020), bu hefyd yn ysgrifennu o dan y ffugenw B. J. Barnet. Roedd yn hefyd athrawes gwyddoniaeth. Roedd yn fwyaf adnabyddus fel awdures y gyfres llyfrau i blant The Magic School Bus. Ysgrifennodd Joanna Cole dros 250 o lyfrau yn amrywio o'i llyfr cyntaf "Cockroach" i'w chyfres enwocaf Magic School Bus.
Ganwyd yn Newark, New Jersey a magwyd yn East Orange gerllaw. Roedd yn hoff o wyddoniaeth pan oedd yn blentyn, ac yn dweud y bu ganddi athrawes a oedd yn debyg i Ms. Frizzle. Mynychodd Prifysgol Massachusetts a Phrifysgol Indiana cyn graddio o Goleg Dinas Efrog Newydd gyda gradd B.A. mewn seicoleg. Wedi cwblhau rhai cyrsiau i raddedigion, treuliodd flwyddyn yn gweithio fel llyfrgellydd mewn ysgol elfennol yn Brooklyn. Yn ddiweddarach, daeth Cole yn gohebydd llythyron Newsweek, ac yn uwch-olygydd Darllenwyr Ifanc ar gyfer Doubleday Books.
Bu farw yn Sioux City, Iowa yn 75 mlwydd oed.[1]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol Magic School Bus
- Bywgraffiad yr Educational Paperback Association o Joanna Cole Archifwyd 2007-04-11 yn y Peiriant Wayback
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiiadau
[golygu | golygu cod]- ↑ BBC Magic School Bus author Joanna Cole dies at 75 adalwyd 22 Gorffennaf 2020