Jeremy Owen
Gwedd
Jeremy Owen | |
---|---|
Ganwyd | 1700s |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | llenor |
Blodeuodd | 1704 |
Llenor Cymraeg ar bynciau crefyddol oedd Jeremy Owen (fl. 1704 - 1744), a gofir fel awdur y gyfrol Golwg ar y Beiau.[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cafodd ei addysg yn ysgol ei ewythr yn Amwythig. Dilynodd ei dad yn weinidog Ymneilltuol yn Henllan Amgoed, Sir Gaerfyrddin, yn 1711.[1]
Yn 1732-33, cyhoeddodd Golwg ar y Beiau. Yn y llyfr hwnnw ceir ymateb Owen i'r rhwyg yn yr eglwys Bresbyteraidd yn yr ardal a arweiniodd at un o ddadleuon diwinyddol poethaf y 18g, rhwng pleidwyr Uchel ac Isel Calfiniaeth. Ystyrir y llyfr bychan hwn yn glasur o'r cyfnod am "ragoriaeth ei Gymraeg cyhyrog".[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Testunau
[golygu | golygu cod]- Golwg ar y Beiau (1732-33)
- Adargraffiad, wedi ei olygu gan R. T. Jenkins (Caerdydd, 1950)
- Y Ddyledswydd Fawr Efengylaidd o Weddio dros Weinidogion (1733)
Astudiaethau
[golygu | golygu cod]Ceir ysgrif gan Saunders Lewis ar waith Jeremy Owen yn y gyfrol Meistri'r Canrifoedd (Caerdydd, 1973)