Golwg ar y Beiau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Data cyffredinol |
---|
Llyfr Cymraeg gan Jeremy Owen (bl. 1704-1744) yw Golwg ar y Beiau, a gyhoeddwyd yn 1732 neu 1733.
Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn y llyfr hwn ceir ymateb Jeremy Owen i'r rhwyg yn yr eglwys Bresbyteraidd yn ardal Henllan Amgoed, Ceredigion, a'r cylch a arweiniodd at un o ddadleuon diwinyddol poethaf y 18g, rhwng pleidwyr Uchel ac Isel Calfiniaeth. Ystyrir y llyfr bychan hwn yn glasur o'r cyfnod am "ragoriaeth ei Gymraeg cyhyrog".[1]
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Testun[golygu | golygu cod y dudalen]
- Golwg ar y Beiau (1732-33)
- Adargraffiad, wedi ei olygu gan R. T. Jenkins (Caerdydd, 1950)
Astudiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Ceir ysgrif gan Saunders Lewis ar waith Jeremy Owen, yn cynnwys Golwg ar y Beiau, yn y gyfrol Meistri'r Canrifoedd (Caerdydd, 1973).
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).