Jenna Bush Hager
Jenna Bush Hager | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Jenna Welch Bush ![]() 25 Tachwedd 1981 ![]() Dallas ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | athro, gohebydd, ysgrifennwr, awdur plant, gwleidydd ![]() |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol ![]() |
Tad | George W. Bush ![]() |
Mam | Laura Bush ![]() |
Priod | Henry Hager ![]() |
Plant | Margaret Hager, Poppy Hager, Hal Hager ![]() |
Gwefan | http://www.today.com/id/38937373/ns/today/t/jenna-bush-hager/ ![]() |
Awdures a chyflwynydd rhaglenni teledu Americanaidd yw Jenna Bush Hager (ganwyd 25 Tachwedd 1981[1]) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, awdur plant a gwleidydd. Mae Hager a'i gefaill, Barbara, yn ferched i'r 43ain Arlywydd yr Unol Daleithiau George W. Bush a chyn-Arglwyddes Gyntaf Laura Bush. Yn 2019 roedd yn cyflwyno Today with Hoda & Jenna, un o raglenni'r NBC yn yr Unol Daleithiau.
Fe'i ganed yn Dallas a mynychodd Brifysgol Texas, Austin a Phrifysgol Efrog Newydd. Priododd Henry Hager ac mae Margaret Hager yn blentyn iddi. Mae'n aelod o'r Blaid Weriniaethol.[2][3]
Ar ôl arlywyddiaeth ei thad, daeth Hager yn awdur, yn olygydd ar y cylchgrawn Southern Living, ac yn bersonoliaeth teledu ar NBC, fel aelod o The Today Show fel gohebydd, cyfrannwr a chyd-westeiwr.[4]
Magwraeth a choleg
[golygu | golygu cod]
Ganwyd Margaret yng Nghanolfan Feddygol Prifysgol Baylor yn Dallas, Texas, a'i henwi ar ôl ei mam-gu, Jenna Hawkins Welch.[5] Mynychodd hi a'i chwaer Ysgol Elfennol Preston Hollow ac yna Ysgol Hockaday. Ym 1994, ar ôl i'w thad gael ei ethol yn Llywodraethwr Texas symudodd y teulu i Austin, Texas, lle roedd Bush yn fyfyriwr yn Ysgol Esgobol St. Andrew, cyn mynychu Ysgol Uwchradd Austin o 1996 hyd nes iddi raddio yn 2000.[6]
Gyda'i thad yn Arlywydd yn 2001, mynychodd Brifysgol Texas yn Austin a chymryd dosbarthiadau haf ym Mhrifysgol Efrog Newydd. Tra yno, daeth Jenna a'i chwaer Barbara i sylw cenedlaethol pan arestiwyd y ddwy ohonynt am gyhuddiadau'n ymwneud ag alcohol, ddwywaith o fewn 5 wythnos: ar Ebrill 29, 2001, cyhuddwyd Jenna o gamymddwyn am fod ag alcohol, a hithau dan 21 oed yn Austin. Ar Fai 29, 2001, cyhuddwyd Jenna o gamymddwyn arall - ceisio defnyddio ID ffug (gyda'r enw "Barbara Pierce," enw cyn priodi ei mam-gu tadol) i brynu alcohol. Plediodd hi "dim sialens" i'r ddau gyhuddiad.[7][8][9]
Graddiodd Jenna Bush o Brifysgol Texas yn Austin gyda gradd mewn Saesneg yn 2004.
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Bush, Jenna (2007). Ana's Story : A Journey of Hope. HarperCollins. ISBN 978-0-06-137908-6.
- Bush, Laura; Bush, Jenna (2008). Read All About It!. HarperCollins. ISBN 9780061560774.
- Bush, Laura; Bush, Jenna (2016). Our Great Big Backyard. HarperCollins. ISBN 9780062468369.
- Bush, Barbara Pierce; Bush Hager, Jenna (2017). Sisters First: Stories from Our Wild and Wonderful Life. New York: Grand Central Publishing. ISBN 9781538711415. OCLC 972386724.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Jenna Bush Biography: Writer (1981–)". Biography.com (FYI / A&E Networks). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Ionawr 2017. Cyrchwyd 9 Ionawr 2017. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014 "Barbara Pierce Bush". Genealogics.
- ↑ Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 11 Rhagfyr 2014
- ↑ Bauder, David (August 30, 2009). "Former first daughter Jenna Bush joins `Today'". Victoria Advocate What. Associated Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Rhagfyr 2013. Cyrchwyd 15 Rhagfyr 2012. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Wehrman, Jessica (30 Awst 2004). "Jenna, Barbara to be seen and heard". Scripps Howard News Service. Cyrchwyd 6 Mai 2019.
- ↑ Schumer, Fran (3 Awst 2003). "Blackboard: School Choice; Where They Send Their Own". The New York Times. Cyrchwyd 6 Mai 2019.
- ↑ "Bush daughters in Texas". USA Today. 31 Mai 2001. Cyrchwyd 6 Mai 2019.
- ↑ "Sentence for Bush daughter". BBC News. June 8, 2001. Cyrchwyd 6 Mai 2019.
- ↑ Walsh, Joan (31 Mai 2001). "The first family's alcohol troubles". Salon. San Francisco. Cyrchwyd 6 Mai 2019.