Jean Piaget
Gwedd
| Jean Piaget | |
|---|---|
| Ganwyd | Jean William Fritz Piaget 9 Awst 1896 Neuchâtel |
| Bu farw | 16 Medi 1980 Genefa |
| Dinasyddiaeth | Y Swistir |
| Alma mater | |
| Ymgynghorydd y doethor | |
| Galwedigaeth | seicolegydd, swolegydd, rhesymegwr, athronydd, academydd, malacolegydd, addysgwr, biolegydd |
| Cyflogwr |
|
| Prif ddylanwad | Immanuel Kant, Charles Darwin |
| Tad | Arthur Piaget |
| Mam | Rebecca Suzanne Jackson |
| Priod | Valentine Piaget |
| Gwobr/au | doethor anrhydeddus o Brifysgol Paris, doctor honoris causa from the University of Aix-Marseille, Gwobr APA am Cyfraniadau Gwyddonol Difreintiedig i Seicoleg, Award for Distinguished Contributions to Developmental Psychology, Gwobr Erasmus, Career Achievement Award for Distinguished Psychological Contributions to Education, Gwobr Balza, Honorary Fellow of the British Psychological Society |
Seicolegydd o'r Swistir oedd Jean Piaget (9 Awst 1896 – 16 Medi 1980). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei ddamcaniaeth datblygiad gwybyddol mewn plant.
Gwelodd Piaget bedwar prif gyfnod o ddatblygiad mewn plentyndod:
- Y cyfnod cynhwyraidd-symudol (0–2 oed) – Mae plant yn defnyddio'u synhwyrau a'u symudiadau i ddarganfod eu hunain a'u hamgylchedd.
- Y cyfnod cyn-weithredol (2–7 oed) – Mae plant yn dysgu drwy brofiadau gyda gwrthrychau go iawn. Maent yn credu bod gan wrthrychau ymwybyddiaeth. Maent yn methu ag amgyffred cyfaint a rhifau.
- Y cyfnod gweithredol diriaethol (7–11 oed) – Mae plant yn dal i ddysgu drwy brofiadau gyda gwrthrychau go iawn. Nid ydynt yn credu bod gan wrthrychau ymwybyddiaeth erbyn hyn. Maent yn deall nifer a hyd.
- Y cyfnod gweithredol ffurfiol (12 – oedolyn) – Mae plant yn datblygu cysyniadau haniaethol, ac yn gallu defnyddio rhesymeg a meddwl yn rhesymegol.
Enillodd Wobr Erasmus ym 1972.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) "Former Laureates: Jean Piaget". Praemium Erasmianum Foundation. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2017.[dolen farw]