Jean Améry
Jean Améry | |
---|---|
![]() Darluniad o Jean Améry o 1951.. | |
Ganwyd | Hans Chaim Mayer ![]() 31 Hydref 1912 ![]() Fienna ![]() |
Bu farw | 17 Hydref 1978 ![]() Salzburg ![]() |
Man preswyl | Fienna, Gwlad Belg ![]() |
Dinasyddiaeth | Awstria ![]() |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, athronydd, gwrthryfelwr milwrol ![]() |
Gwobr/au | gwobr llenyddiaeth academi y celfyddydau cainBafaria, Preis der Stadt Wien für Publizistik ![]() |
Ysgrifwr a nofelydd Awstriaidd yn yr iaith Almaeneg oedd Jean Améry (Hanns Chaim Mayer; 31 Hydref 1912 – 17 Hydref 1978) a wnâi dynnu ar ei brofiadau o'r Holocost yn ei waith.
Ganed Hanns Chaim Mayer yn Fienna, Awstria-Hwngari, yn fab i dad Iddewig a mam Gatholig. Yn sgil marwolaeth ei dad yn y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd ei fagu'n Gatholig. Astudiodd athroniaeth yn Fienna. Yn sgil yr Anschluss ym 1938, ffoes i Ffrainc, ac yna i Wlad Belg. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu'n aelod o'r gwrthsafiad yn erbyn yr Almaenwyr yng Ngwlad Belg, a chafodd ei garcharu mewn gwersylloedd crynhoi yn Gurs, yn ne-orllewin Ffrainc, ac Auschwitz yng Ngwlad Pwyl. Ar ddiwedd y rhyfel, wrth i'r lluoedd Sofietaidd agosáu, cafodd ei symud i wersylloedd Buchenwald a Bergen-Belsen.
Wedi'r rhyfel, gweithiodd yn newyddiadurwr. Daeth i'r amlwg pan ddechreuodd ysgrifennu am ei brofiad yn yr Holocost yng nghanol y 1960au. Darllenodd ei ysgrifau ar y radio, ac ym 1964 cychwynnodd ar sawl taith ddarlithio trwy'r Almaen ym 1964. Mabwysiadodd y ffugenw Ffrangeg Jean, cyfeiriad at Jean-Paul Sartre, ac Améry, anagram o'i gyfenw Mayer. Bu farw yn 65 oed trwy hunanladdiad, o orddos o gyffuriau tawelu, mewn gwesty yn Salzburg.[1]
Derbyniodd wobr lenyddol oddi ar Academi Celfyddydau Cain Bafaria ym 1972, a gwobrau Fienna a Lessing ym 1977.[1]
Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod]
Ysgrifau[golygu | golygu cod]
- Jenseits von Schuld und Sühne: Bewältigungsversuche eines Überwältigten (1966).
- Über das Altern: Revolte und Resignation (1968).
- Widersprüche (1971).
- Unmeisterliche Wanderjahre (1971).
- Hand an sich legen: Diskurs über den Freitod (1976).
Nofelau[golygu | golygu cod]
- Lefeu, oder, der Abbruch: Roman-Essay (1974).
- Charles Bovary, Landarzt (1978).
- Rendezvous in Oudenaarde (1982).
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) K. Hannah Holtschneider, "Améry, Jean" yn Reference Guide to Holocaust Literature. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 28 Tachwedd 2021.
- Awstriaid Iddewig
- Catholigion Awstriaidd
- Genedigaethau 1912
- Llenorion Iddewig
- Marwolaethau 1978
- Newyddiadurwyr Awstriaidd
- Nofelwyr Awstriaidd yr 20fed ganrif
- Nofelwyr Awstriaidd yn yr iaith Almaeneg
- Pobl o Awstria-Hwngari
- Pobl o Fienna
- Pobl fu farw o orddos o gyffuriau
- Pobl fu farw trwy hunanladdiad
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Awstriaidd yr 20fed ganrif
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Awstriaidd yn yr iaith Almaeneg