Jan Moir

Oddi ar Wicipedia
Jan Moir
GanwydAwst 1958 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethcolofnydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Newyddiadurwr,[1] colofnydd[2] ac adolygwraig bwytai [3] o'r Deyrnas Unedig ydy Jan Moir (ganed Awst 1956). Yn 2005, enillodd Wobr Lynda Lee-Potter o Gymdeithas Llenorion Benywaidd am newyddiadurwr benywaidd y flwyddyn.[4]

Ar hyn o bryd, ysgrifenna i'r Daily Mail a chyn hynny bu'n gweithio i The Daily Telegraph [5] a The Guardian.[6] Tan ddiwedd 2008, ysgrifennau "Are You Ready To Order?", blog o adolygiadau tai bwyta ganddi hi a'i phartner, "S".

Mae'n byw yn Knightsbridge, Llundain.[7]

Erthygl Stephen Gately[golygu | golygu cod]

Ar 16 Hydref 2009 ysgrifennodd Moir erthygl yn y Daily Mail a awgrymodd y gallai marwolaeth y canwr Stephen Gately o'r grŵp pop Boyzone fod yn gysylltiedig â'i rywioldeb. Arweiniodd hyn at feirniadaeth chwyrn ar wefan y Daily Mail [8] a phrotestiodd cannoedd o bobl ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol megis Twitter a Facebook. Gwnaed dros 1,000 o gwynion i Gomisiwn Cwynion y Wasg yn ystod y diwrnod y cafodd yr erthygl ei chyhoeddi.[9][10] Aeth gwefan Comisiwn Cwynion y Wasg oddi ar-lein, a chredir fod hyn oherwydd y nifer o bobl a ymwelodd a'r wefan er mwyn cwyno am yr erthygl.[11] Ar yr 19 Hydref, dywedodd Comisiwn Cwynion y Wasg y byddent yn ymchwilio i weld a oedd yr erthygl wedi torri rheolau Canllawiau Golygyddion [12] yn sgîl 21,000 o gwynion.[13] Gan amlaf, mae'r Comisiwn yn ymateb i gwynion a wneir gan bobl a effeithiwyd yn uniongyrchol gan erthygl. Honnodd Moir mai "orchestrated campaign" oedd yn gyfrifol am yr ymateb chwyrn yn erbyn ei herthygl. Ar wefan "Comment is Free" The Guardian, disgrifiodd y colofnydd Charlie Brooker erthygl Moir fel "gay bashing".[14]

Ymhlith y bobl ar Twitter a gefnogodd yr ymgyrch yn erbyn y Daily Mail a Jan Moir oedd Derren Brown a Stephen Fry. Crewyd tudalen Facebook hefyd yn annog pobl i gwyno i'r cwmnïau a oedd yn hysbysebu wrth ymyl yr erthygl. Ystyriwyd y mater yn ddigon difrifol i Marks & Spencer ofyn i'r papur newydd i gael gwared ar hysbyseb a oedd yn agos i'r erthygl,[15] gan wneud datganiad i'r wasg a ddywedai: "Marks & Spencer does not tolerate any form of discrimination". Ymbellhaodd Nestlé eu hunain wrth yr erthygl hefyd, gan ddweud fod geiriau Moir yn anghyson â gwerthoedd y cwmni o "mutual respect and tolerance, regardless of culture, religion or nationality". Symudodd y Daily Mail bob hysbyseb ar y dudalen ar eu gwefan a newidasant pennawd yr erthygl o "Why there was nothing "natural" about Stephen Gately's death" i "A strange, lonely and troubling death".[16]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Journalisted entry Archifwyd 2009-10-19 yn y Peiriant Wayback., Adalwyd 16-10-2009
  2. A strange, lonely and troubling death... Moir, Jan. Daily Mail 2009-10-16. Adalwyd ar 2009-10-16
  3. Gwefan Jan Moir Are You Ready To Order?, Adalwyd 16-10-2009
  4. Telegraph's Moir wins journalism award Claire Cozens. The Guardian. 2005-10-26. Adalwyd ar 2009-10-16
  5. Daily Telegraph Archifwyd 2009-10-04 yn y Peiriant Wayback., Adlawyd ar 16-10-2009
  6. The Guardian 16-10-2009
  7. rpts.gov.uk[dolen marw], 16-10-2009
  8. Roy Greenslade Mail columnist provokes homophobia storm over Stephen Gately's death 2009-10-16. Adlawyd ar 2009-10-16. The Guardian
  9. Daily Mail columnist Jan Moir blames 'orchestrated campaign' for gay backlash 2009-10-16. Adalwyd ar 2009-10-16. PinkNews.co.uk
  10. Twitter and Facebook outrage over Jan Moir's Stephen Gately article, 16-10-2009
  11. Jan Moir’s Gately slur provokes online outrage| Archifwyd 2009-10-19 yn y Peiriant Wayback. 2009-10-16. Adalwyd ar 2009-10-16. STV
  12. Ponsford, Dominic PCC to investigate Jan Moir's Stephen Gately article Archifwyd 2009-10-28 yn y Peiriant Wayback. Press Gazette 19 Hydref 2009, adalwyd 19 Hydref 2009
  13. Record 21,000 complaints to watchdog about Daily Mail article on Stephen Gately Adalwyd 19 Hydref 2009
  14. Why there was nothing 'human' about Jan Moir's column on the death of Stephen Gately Brooker, Charlie. 2009-10-16. The Guardian. Adalwyd ar 2009-10-16
  15. "Marks & Spencer pulls ads from Daily Mail article on Stephen Gately's death" Chris Tryhorn, Mercedes Bunz a Mark Sweney 2009-10-16. Adalwyd ar 2009-10-16. The Guardian
  16. Green, Jessica Updated: Twitter storm over 'vile' Daily Mail column on gay singer Stephen Gately. Pinknews.co.uk Adalwyd 16-10-2009