Jamie Bell

Oddi ar Wicipedia
Jamie Bell
GanwydAndrew James Matfin Bell Edit this on Wikidata
14 Mawrth 1986 Edit this on Wikidata
Billingham Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Stagecoach Theatre Arts
  • Ysgol Northfield Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor ffilm, dawnsiwr bale, actor teledu Edit this on Wikidata
PriodEvan Rachel Wood, Kate Mara Edit this on Wikidata
PartnerKate Mara Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Prif Rhan, Gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm Broadcast ar gyfer Perfformiwr Ifanc Gorau Edit this on Wikidata

Mae Jamie Bell (ganed 14 Mawrth 1986) yn actor Prydeinig sydd wedi ennill BAFTA. Mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan y prif gymeriad yn y ffilm Billy Elliot (2000), sef y rôl yr enillodd Wobr BAFTA amdano yn 2001.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Cafodd Bell ei eni yn Billingham,[1] ym mwrdeistref Stockton on Tees, Gogledd-orllewin Lloegr, lle tyfodd i fyny gyda'i fam, Eileen a'i chwaer hŷn[2]. Gadawodd ei dad y cartref teuluol cyn iddo gael ei eni. Mynychodd Bell Ysgol Northfield ac yna ysgol berfformio Stagecoach. Roedd yn aelod o'r Theatr Cerddoriaeth Ieuenctid Cenedlaethol. Ym 1999, cafodd ei ddewis allan o 2000 o fechgyn i chwarae rhan Billy Elliot, bachgen 11 mlwydd oed sy'n digalonni ei frawd a'i dad weddw, dosbarth gweithiol trwy ddechrau ymddiddori mewn ballet.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ers iddo gael y prif ran yn Billy Elliot, ymddangosodd Bell fel y gwas cloff mewn addasiad o Nicholas Nickleby, fel milwr ifanc yn Deathwatch, fel arddegwr a oedd yn ceisio ffoi yn Undertow, fel heddychwr a gariai gwn yn Dear Wendy ac fel y Jimmy ifanc yn y fersiwn ffilm o King Kong (2005). Hefyd chwaraeodd y prif ran yn Hallam Foe a chafodd ei enwebu am y wobr Actor Gorau yn Ngwobrau Ffilmiau Annibynnol Prydain.

Roedd ganddo ddwy rôl mewn ffilmiau yn 2008: yn y ffilm gwyddonias Jumper ac yn y ffilm am yr Ail Ryfel Byd Defiance. Er y sibrydion, ni fydd yn ymddangos yng nghynhyrchiad y West End o ddrama Thea Sharrock, Equus, wedi iddo dynnu allan o drafodaethau pan na gynigiwyd y cytundeb iddi ar gyfer cynhyrchiad y sioe yn Broadway.

Ei Fywyd Personol[golygu | golygu cod]

Yn 2005 a 2006, roedd Bell yn canlyn yr actores Evan Rachel Wood - ymddangosodd y ddau ohonynt yn fideo cerddorol y band Green Day, "Wake Me Up When September Ends".

Ar hyn o bryd mae'n trigo yn Ninas Efrog Newydd ac mae hefyd yn perchen ar gartref yn Chelsea, London.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]