Defiance (ffilm 2008)
Gwedd
| Enghraifft o: | ffilm |
|---|---|
| Lliw/iau | lliw |
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Dyddiad cyhoeddi | 31 Rhagfyr 2008, 23 Ebrill 2009 |
| Genre | ffilm ryfel, ffilm ddrama |
| Cymeriadau | Tuvia Bielski, Alexander Zeisal Bielski, Asael Bielski, Aron Bielski, Adolf Hitler |
| Prif bwnc | yr Ail Ryfel Byd, yr Holocost |
| Lleoliad y gwaith | Belarws |
| Hyd | 137 munud |
| Cyfarwyddwr/wyr | Edward Zwick |
| Cynhyrchydd/wyr | Edward Zwick |
| Cwmni cynhyrchu | Paramount Vantage, Edward Zwick |
| Cyfansoddwr | James Newton Howard |
| Dosbarthydd | Paramount Vantage, Netflix |
| Iaith wreiddiol | Saesneg |
| Sinematograffydd | Eduardo Serra |
| Gwefan | http://www.defiancemovie.com/ |
| Sgriptiwr | Edward Zwick |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/03m5vzd |
Mae Defiance (2008) yn ffilm ryfel Americanaidd a gyfarwyddwyd gan Edward Zwick. Lleolir y ffilm yn ardaloedd dwyreiniol Gwlad Pwyl (Gorllewin Belarws bellach) pan oedd yr ardal o dan reolaeth y Natsiaid. Addasiad yw'r ffilm o Nechama Tec's Defiance: The Bielski Partisans, sy'n seiliedig ar stori wir yr herwfilwyr Bielski. Yn y llyfr, daeth Iddewon Pwylaidd at ei gilydd er mwyn amddiffyn ei hunain ac i wrthwynebu'r Almaen yn meddiannu eu tir.
Mae Defiance yn serennu Daniel Craig, Liev Schreiber, Jamie Bell, a George MacKay fel pedwar brawd Iddewig o Wlad Pwyl sy'n dianc rhag y Natsiaid ac sy'n ymladd yn ôl er mwyn ceisio achub bywydau eu cyd-Iddewon. Dechreuwyd ar y broses gynhyrchu ar ddechrau mis Medi 2007.
Cast
[golygu | golygu cod]- Daniel Craig fel Tuvia Bielski
- Liev Schreiber fel Zus Bielski
- Jamie Bell fel Asael Bielski
- George MacKay fel Aron Bielski
- Alexa Davalos Lilka Ticktin, ffoadur Pwyleg a chariad Tuvia
- Allan Corduner fel Shimon Haretz, cyn athro ysgol un o'r brodyr
- Mark Feuerstein fel Isaac Malbin, y deallusyn
- Tomas Arana fel Ben Zion Gulkowitz, arweinydd y gwrthsafiad
- Mia Wasikowska fel Chaya Dziencielsky, cariad
- Iben Hjejle fel Bella, cariad Zus
- Jodhi May fel Tamara Skidelski, cyfneither y Bielskiaid oedd wedi ei threisio gan filwr Natziaidd
- Kate Fahy fel Riva Reich
- Iddo Goldberg fel Yitzhak Shulman
- Ravil Isyanov fel Victor Panchenko, Pennaeth y gwrthryfelwyr Rwsiaidd wedi ei seilio yn fras ar y gwrthryfelwr Nikolai Mayakov
- Rolandas Boravskis fel Gramov, is-bennaeth y gwrth-ryfelwyr Rwsiaidd