Jacques Maritain
Jacques Maritain | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 18 Tachwedd 1882 ![]() Paris ![]() |
Bu farw | 28 Ebrill 1973 ![]() Toulouse ![]() |
Man preswyl | Ffrainc ![]() |
Dinasyddiaeth | Ffrainc ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | athronydd, addysgwr, ysgrifennwr, diplomydd ![]() |
Swydd | ambassador of France to the Holy See ![]() |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Action Française, Christian Democracy ![]() |
Mudiad | personolyddiaeth gymunedol, dyneiddiaeth Gristnogol, Democratiaeth Gristnogol, hawliau dynol ![]() |
Priod | Raïssa Maritain ![]() |
Gwobr/au | Prif Wobr Llenyddol Academi Ffrainc, Aquinas Medal, Aquinas Medal, Grand prix national des Lettres, Corresponding Fellow of the Medieval Academy of America ![]() |
Athronydd Catholig o Ffrancwr oedd Jacques Maritain (18 Tachwedd 1882 – 28 Ebrill 1973) sy'n nodedig am ei ddehongliadau o syniadaeth Tomos o Acwin ac am athroniaeth Domistaidd ei hunan.
Ganwyd ym Mharis, a chafodd ei fagu'n Brotestant. Astudiodd yn y Sorbonne ac yno dylanwadwyd arno gan y syniad nad oedd gwyddorau natur yn gallu ateb yr holl gwestiynau am oes a thranc dyn. Gyda'i gyd-fyfyriwr Raissa Oumansoff, Iddewes o Rwsia, mynychodd darlithoedd yr athronydd Henri Bergson a oedd yn arddel sythwelediaeth yn hytrach na gwyddonyddiaeth. Priododd Maritain â Oumansoff yn 1904, a dwyflwydd yn ddiweddarach troesant yn Gatholigion. Astudiodd Maritain fioleg ym Mhrifysgol Heidelberg o 1906 i 1908 cyn iddo ddychwelyd i Baris i astudio Tomistiaeth.[1]
Dechreuodd addysgu yn yr Institut Catholique yn 1913, a daliodd swydd athro athroniaeth fodern o 1914 i 1939. Bu'n ddarlithydd blynyddol i'r Pontifical Institute of Mediaeval Studies ym Mhrifysgol Toronto o 1932 ymlaen, a hefyd yn athro gwadd ym mhrifysgolion Princeton (1941–42) a Columbia (1941–44). Gwasanaethodd yn llysgennad Ffrainc i Ddinas y Fatican o 1945 i 1948. Dychwelodd i Princeton i gymryd swydd athro athroniaeth o 1948 i 1960. Sefydlwyd Canolfan Jacques Maritain ym Mhrifysgol Notre Dame, Indiana, yn 1958. Bu farw yn Toulouse yn 90 oed.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Jacques Maritain. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Awst 2019.
Darllen pellach[golygu | golygu cod]
- Bernard Doering, Jacques Maritain and the French Catholic Intellectuals (Notre Dame, Indiana: University of Notre Dame Press, 1983).
- Jude P. Dougherty, Jacques Maritain: An Intellectual Profile (Washington, D.C.: Catholic University of America Press, 2003).
- Joseph W. Evans (gol.), Jacques Maritain: The Man and His Achievement (Efrog Newydd: Sheed & Ward, 1963).
- William J. Nottingham, Christian Faith and Secular Action: An Introduction to the Life and Thought of Jacques Maritain (St. Louis: Bethany, 1968).
- Academyddion Ffrengig
- Academyddion Prifysgol Princeton
- Athronwyr Catholig Ffrengig
- Athronwyr Ffrengig yr 20fed ganrif
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Heidelberg
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Paris
- Genedigaethau 1882
- Llenorion Catholig
- Llenorion ffeithiol Ffrengig yr 20fed ganrif
- Llysgenhadon
- Marwolaethau 1973
- Pobl o Baris
- Tomistiaid
- Ysgolheigion Ffrengig yn yr iaith Ffrangeg