Jack Anthony
Gwedd
Jack Anthony | |
---|---|
Ganwyd | 21 Ionawr 1890 Cydweli |
Bu farw | 10 Gorffennaf 1954 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | hyfforddwr ceffylau, joci |
Chwaraeon |
Joci o Gymru o ardal Cydweli, Sir Gaerfyrddin, oedd John Randolph Anthony (21 Ionawr 1890 – 10 Gorffennaf 1954) a adwaenid yn gyffredin fel Jack Anthony.
Mae'n fwyaf enwog am ei dair buddugoliaeth yn ras Y Grand National; ar Glenside yn 1911, ar Ally Sloper yn 1915 ac ar Troytown yn 1920. Ef oedd y trydydd joci i ennill y Grand National dair gwaith. Daeth yn drydydd hefyd yn 1925. Yn dod o deulu rasio ceffylau, cafodd ei eni ar fferm Cilfeithy, Llandyfeilog ger Cydweli. Roedd ei dad John Anthony yn amlwg yn y byd rasio ceffylau ynghyd a'i frodyr Ivor Anthony ac Owen Anthony.