J. P. Morgan
| J. P. Morgan | |
|---|---|
| Ganwyd | 17 Ebrill 1837 Hartford |
| Bu farw | 31 Mawrth 1913 Rhufain |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | entrepreneur, casglwr celf, banciwr, ariannwr |
| Adnabyddus am | The Morgan Library & Museum |
| Tad | Junius Spencer Morgan |
| Mam | Juliet Pierpont |
| Priod | Frances Louisa Tracy, Amelia Sturges Morgan |
| Plant | John Pierpont Morgan, Jr., Anne Morgan, Juliet Pierpont Hamilton, Louisa Pierpont Morgan |
| llofnod | |
Ariannwr a bancwr o'r Unol Daleithiau oedd John Pierpont Morgan (17 Ebrill 1837 – 31 Mawrth 1913). Disgynnai drwy ochr ei dad i Miles Morgan o Sir Gaerfyrddin ac ymfudodd i America ym 1636.[1]
Cafodd ei eni yn Hardford, Connecticut, yn fab i Junius Spencer Morgan, bancwr, a'i wraig Juliet Pierpont. Addysgwyd ef yn ysgol Bellerive yn Y Swistir a Phrifysgol Göttingen.
Dechreuodd Morgan weithio ym manc ei dad yn Llundain ym 1857. Symudodd wedyn i Efrog Newydd ym 1858, ac ym 1871, dechreuodd gwmni gyda'i bartner gwaith, Anthony J. Drexel, o'r enw Drexel, Morgan & Company. Ar ôl marwolaeth Drexel, cafodd y cwmni'r enw newydd o J.P. Morgan & Company ym 1895.
Dechreuodd Morgan ad-drefnu rheilffyrdd ym 1885, ac enillodd reolaeth llawer o gwmnïau rheilen. Ym 1896, dechreuodd gyfuno diwydiannau trydan a dur. Erbyn y 1900au cynnar, rheolai Morgan bron pob un o brif ddiwydiannau America.
Bu farw yn Rhufain ym 1913.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Genealogical and family history of the state of New Hampshire: a record of the achievements of her people in the making of a commonwealth and the founding of a nation, Cyfrol 1; 1908; Cyhoeddwyd gan Lewis Publishing Company; tudalen 56
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Profiad Americanaidd- J.P. Morgan