John Bodvan Anwyl
John Bodvan Anwyl | |
---|---|
Ganwyd | 27 Mehefin 1875 Caer |
Bu farw | 23 Gorffennaf 1949 o boddi Llangwnnadl |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, geiriadurwr, awdur |
Tad | John Anwyl |
Geiriadurwr, gweinidog ac awdur o Gymru oedd John Bodvan Anwyl (enw barddol: Bodfan); 27 Mehefin 1875 - 23 Gorffennaf 1949).
Cafodd ei eni yng Nghaer yn 1875. Yn 1914 fe'i comisiynwyd i olygu geiriaduron Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg cwmni Spurrell (gw. Geiriadur Cymraeg-Saesneg Spurrell.)
Fe'i penodwyd i staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1920, ac yna'n Oruchwyliwr y Geiriadur (Dictionary Superintendant), prosiect dan ofal Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru, yn 1921, yn y Llyfrgell. Trefnodd gynllun darllen drwy recriwtio rhyw ddau gant o wirfoddolwyr i ddarllen testunau a chodi enghreifftiau o eiriau yn eu cyd-destun ar slipiau o bapur. Dyma osod sylfeini Geiriadur Prifysgol Cymru; dull sy'n para hyd heddiw.
Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol Cymru archif o'i bapurau.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Anwyl, John Bodvan (1914–1934). "Ffeil G45-56. - Anwyl, J. Bodvan, Aberystwyth". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 13 Chwefror 2024.CS1 maint: date format (link)
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Englynion (Wrecsam, 1933)
- Fy Hanes i Fy Hunan / John Cymro Jones (1933)