Jørgen Engebretsen Moe

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Jørgen Engebretsen Moe
Jørgen Moe (Frederik Klem).jpg
Ganwyd 22 Ebrill 1813 Edit this on Wikidata
Hole Edit this on Wikidata
Bu farw 27 Mawrth 1882 Edit this on Wikidata (68 oed)
Kristiansand Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Union between Sweden and Norway Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Bardd, Offeiriad, Ysgrifennwr, arbenigwr mewn llên gwerin, awdur plant, diwinydd Edit this on Wikidata
Tad Engebret Olsen Moe Edit this on Wikidata
Plant Moltke Moe, Ole Falk Moe Edit this on Wikidata
Gwobr/au Cadlywydd Urdd Sant Olaf, Urdd Sant Olav Edit this on Wikidata
Llofnod
Jørgen Moe's signature.svg
Clawr argraffiad 1878 o Norske folke og huldre-eventyr

Roedd Jørgen Engebretsen Moe (22 Ebrill 181327 Mawrth 1882) yn arbenigwr llên gwerin a bardd o Norwy. Mae'n ffigwr pwysig yn hanes adfywiad llenyddol a chenedlaethol Norwy yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu'n esgob Christiansand o 1875 hyd 1881.

Ganwyd Moe ar fferm yn Hole, Ringerike. Roedd yn blentyn darllengar a hoffia fyd natur. Gyda'r nos byddai'n gwrando hen chwedlau ar aelwyd y teulu neu yn y ffermydd cyfagos, a hynny ar adeg pan oedd y chwedlau'n fyw ar gof gan yr hen genhedlaeth o hyd.

Gyda Peter Christian Asbjørnsen, ei hen ffrind ysgol, casglodd a golygodd gasgliad pwysig a hynod ddylanwadol o chwedlau llên gwerin traddodiadol (eventyr) Norwyeg (1841-1844), y Norske folke og huldre-eventyr.

Cyhoeddodd yn ogystal gyfrol o gerddi rhamantaidd yn 1850, ynghyd â chlasur o gyfrol i blant, I brønden og i kjœrnet (1851).

Roedd mab Jørgen Moe, Moltke, yn arbenigwr llên gwerin o fri, athro llên gwerin cyntaf Priyfysgol Christiana.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfieithiwyd detholiad da o chwedlau Moe ac Asbjørnsen i'r Saesneg gan Pat Shaw Iversen a Carl Norman, gyda'r lluniau gan Erik Werenskiold a Theodor Kittelsen o'r argraffiad Norwyaidd poblogaidd a gyhoeddwyd yn 1878:

  • Norwegian Folk Tales (Dreyers Forlag, Oslo, 1978)

Yn Gymraeg ceir addasiadau o rai o'r chwedlau yn,

  • Eirwen Shelbourne (cyf.), Chwedlau Norwy (Llandybïe, 1970)