Ivor Emmanuel
Ivor Emmanuel | |
---|---|
Ganwyd | 7 Tachwedd 1927 Pontrhydyfen, Cymru |
Bu farw | 20 Gorffennaf 2007, 19 Gorffennaf 2007 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, canwr |
Math o lais | bariton |
Actor a chanwr o Gymru oedd Ivor Emmanuel (7 Tachwedd 1927 - 19 Gorffennaf 2007).
Ganed ef ym mhentref Pontrhydyfen, yr un pentref a Richard Burton. Lladdwyd ei rieni a'i chwaer dair oed ar 11 Mai 1941 pan oedd ef yn 14 oed pan ollyngodd awyren Almaenig fomiau ar y pentref. Cafodd Ivor ei godi gan ei fodryb, Flossie, chwaer ei fam. Goroesodd ei frawd John hefyd a magwyd ef gan yr ewythr, brawd eu tad. Aeth i weithio dan ddaear cyn cael prentisiaeth yn y gwaith dur.
Cymaint oedd ei frwdfrydedd dros gerddoriaeth roedd yn aelod o dri chôr, dwy gymdeithas opera, a hefyd gymdeithas ddrama. mae hanesion amdano yn cludo gramaffon lan y mynydd a gwrando ar recordiau o Enrico Caruso
Cafodd gymorth Richard Burton yn ei yrfa fel actor, yn enwedig roedd yn ddyledus i Burton am ran yn Oklahoma! yn Llundain. Yn y 1950au roedd yn amlwg yn y rhaglen deledu gerddorol Gwlad y Gân. Daeth yn enwog am ei ran yn y ffilm Zulu (1964), hanes brwydr Rorke's Drift yn 1879.
Aeth i fyw i Sbaen yn Benalmadena Puebio ar y Costa del Sol yn 1982 a bu farw yn Malaga yn 2007.