Is-etholiad Maldwyn, 1962

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Isetholiad Maldwyn, 1962)

Cynhaliwyd Is-etholiad Maldwyn, 1962 ar y 15 Mai 1962 yn dilyn marwolaeth yr Aelod Seneddol Rhyddfrydol, Clement Davies.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Bu Clement Davies yn Aelod Seneddol dros Faldwyn ers Etholiad Cyffredinol 1929, gan hefyd ddod yn arweinydd y Blaid Ryddfrydol rhwng 1945 a 1956.[1]

Cyhoeddodd Davies yn Mai, 1960, yn 75 oed, na fyddai'n sefyll yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf (1964), fodd bynnag 2 flynedd yn ddiweddarch, ar 23 Mawrth, 1962, bu farw mewn clinig yn Llundain.[2]

Ymgeiswyr[golygu | golygu cod]

Enwebwyd pedwar ymgeisydd i gystadlu'r is-etholiad:

  • Emlyn Hooson (Y Blaid Ryddfrydol): Yn fargyfreithiwr o Ddinbych, safodd Hooson fel ymgeisydd Rhyddfydol yng Nghonwy yn Etholiad Cyffredinol 1950 a 1951, gan ddod yn drydydd ar y ddwy achlysur. Yn 1950, bu briodi Shirley Hamer- merch Syr George a'r Foneddiges Hamer; Rhyddfrydwyr blaengar o Lanidloes, Powys. Bu i Hooson wynebu gryn cystadleuaeth am yr ymgeisyddiaeth Ryddfrydol, gan gynnwys dau o feibion yr Arglwydd Davies, a mab Clement Davies, Stanley.[2]
  • Robert H. Dawson (Y Ceidwadwyr)
  • Tudor Davies (Llafur)
  • Islwyn Ffowc Elis (Plaid Cymru): Dyma'r tro cyntaf y bu i Blaid Cymru ymgeisio mewn etholiad ym Maldwyn.[2]

Canlyniad[golygu | golygu cod]

Llwyddodd Emlyn Hooson i ennill yr isetholiad gyda mwyafrif o 7,549 pleidlais.[3]

Isetholiad Maldwyn, 1962
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Emlyn Hooson 13,181 51.3 +9.2
Ceidwadwyr Robert H. Dawson 5,632 21.9 −9.4
Llafur Tudor Davies 5,299 20.6 −6.0
Plaid Cymru Islwyn Ffowc Elis 1,594 6.2
Mwyafrif 7,549 29.4 +18.6
Y nifer a bleidleisiodd 25,706 85.1 +1.3
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Darllen Pellach[golygu | golygu cod]

  • Chapman, Robin Rhywfaint o Anfarwoldeb (Llandysul: Gwasg Gomer, 2003)
  • Llwyd Morgan, Derec. Emlyn Hooson: Essays and Reminiscences. (Llandysul: Gomer: 2014)
  • Wyburn-Powell, Alun. Clement Davies: Liberal Leader. (Llundain: Politico's: 2003)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Wyburn-Powell, Alun. Clement Davies: Liberal Leader (Llundain: Politico's: 2003)
  2. 2.0 2.1 2.2 Llwyd Morgan, Derec. Emlyn Hooson: Essays and Reminiscences. (Llandysul: Gomer: 2014)
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-05. Cyrchwyd 2012-02-05.