Neidio i'r cynnwys

Isadain felen amryliw

Oddi ar Wicipedia
Noctua fimbriata
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Noctuidae
Genws: Noctua
Rhywogaeth: N. fimbriata
Enw deuenwol
Noctua fimbriata
Schreber, 1759

Gwyfyn sy'n perthyn i deulu'r Noctuidae yn urdd y Lepidoptera yw isadain felen amryliw, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy isadenydd melyn amryliw; yr enw Saesneg yw Broad-bordered Yellow Underwing, a'r enw gwyddonol yw Noctua fimbriata.[1][2] Mae i'w ganfod yn Ewrop, Anatolia, y Cawcasws a Gogledd Affrica.

45–55 mm ydy lled yr adenydd gyda'r adain flaen rhwng 22–27 mm o hyd. Tua diwedd Mehefin hyd at fis Medi mae'r oedolyn yn hedfan.

Lindysen (larfa)

[golygu | golygu cod]

Mae'r larfae yn ocraidd cochlyd, yn olau ar yr ochrau a gyda smotiau brown; llinell dorsal yn olau; bar tywyll ag ymyl golau ar draws y 12fed segment; sbiraclau'n olau ar smotiau tywyll.[3]

2,2a,2b Lindys ar ôl bwrw cyntaf yr hen groen

Prif fwyd y larfa ydy dail tafol (rumex), danadl poethion a phlanhigion byr eraill.

Profiad unigolion

[golygu | golygu cod]
  • Isadain felen amryliw (Broad-bordered Yellow Underwing), Clydach, Cwm Tawe 12.07.2025 Dewi Lewis[4]

Cyffredinol

[golygu | golygu cod]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r isadain felen amryliw yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  3. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Vlinderstichting
  4. https://www.facebook.com/share/p/18B2eW7kV1/?mibextid=wwXIfr