Danadl poethion
Gwedd
| Danadl poethion | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
| Urdd: | Rosales |
| Teulu: | Urticaceae |
| Genws: | Urtica |
| Rhywogaeth: | U. dioica |
| Enw deuenwol | |
| Urtica dioica L. | |

Llysieuyn bychan rhwng 20 – 60 cm yw danadl poethion neu'r dynaint neu weithiau dynad (Lladin: Urtica dioica; Saesneg: nettle) ac mae fel arfer yn tyfu fel chwynyn mewn hen erddi neu wrychoedd. Ceir rhwng 35 a 40 math gwahanol ohono.
Llysiau rhinweddol
[golygu | golygu cod]Mae danadl poethion yn gyfoethog o rinweddau ac yn cynnwys: asid carbonig, asid fformig, aminia, haearn, ffosffadau a Fitamin A.[1] Gellir eu bwyta fel bresych (wedi'u berwi) gyda chaws mân neu fenyn, neu yfed y dŵr fel te: sydd yn dda at gowt a chael gwared o gerrig o'r corff.
Mae un astudiaeth o'r gwenwyn sydd ynddynt yn mynnu fod seratonin, asid ocsalig ac asid tartarig ynddo.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dolennau allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan sut i ddefnyddio danadl Archifwyd 2009-04-29 yn y Peiriant Wayback