Irisarri
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 913 |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Daearyddiaeth | |
Sir | canton of Iholdy, Pyrénées-Atlantiques, Nafarroa Beherea, arrondissement Baiona |
Gwlad | Gwlad y Basg Ffrainc |
Arwynebedd | 26.39 km² |
Uwch y môr | 225 metr |
Yn ffinio gyda | Hélette, Iholdy, Jaxu, Ossès, Suhescun |
Cyfesurynnau | 43.2569°N 1.2336°W |
Cod post | 64780 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Irissarry |
Mae Irisarri ([ iʁ̞is̺aʁi]) yn bentref ac yn fwrdeistref yng Ngwlad y Basg, yn rhanbarth Nafarroa Beherea.
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]
Amgylchedd naturiol[golygu | golygu cod]
Mae afon Laka, sy'n llifo i afon Errobi, yn mynd trwy'r pentref. Hefyd rhai o lednentydd afon Laka: afonydd Elhur, Oihanhandia, Gatarri a Larhan.
Bwrdeistrefi sy'n ffinio ag Irisarri[golygu | golygu cod]
- Heleta yn y gogledd
- Ortzaize yn y gorllewin
- Iholdi a Suhuskune yn y dwyrain
Tai a chymdogaethau[golygu | golygu cod]
- Baigura
- Pagotzona
- Basaburu
- Otsateheta
- Etxalgi
- Oihanhandi
- Plaza
Hanes[golygu | golygu cod]
Daeth pentref Irisarri i fodolaeth wrth adeiladu'r Ospitalea a sefydlwyd yn y 12g, tua'r flwyddyn 1150, gan Farchogion yr Ysbyty. Tua'r flwyddyn 1530 daeth dan reolaeth Urdd Malta.
Yn 1350, yr oedd 23 o dai yn Irisarri, a phob un ond dau yn perthyn i'r Marchogion, gyda'u preswylwyr yn cyflawni dyletswyddau gweinyddol.
Yn 1607, lansiodd Martin de Larrea, arglwydd Irisarri, y gwaith o ailadeiladu’r Ospitalea, gan greu un o adeiladau harddaf Nafarroa Beherea. Adnewyddwyd yr ystafell weddi hefyd a'i throi'n eglwys y pentref. Trawsnewidiwyd yr eglwys yn 1860.
Treftadaeth[golygu | golygu cod]
Mae nifer o adeiladau i'w gweld yn y pentref, llawer ohonynt o'r 17gDyma rai adeiladau pwysig:
- Mae bryngaer ar fynydd Baigura uwchben y pentref.
- Eglwys Sant Ioan y Bedyddiwr yw eglwys blwyf Irisarri, mae'r elfennau hynaf o'r 15g a'r 16g.
- Yr Ospitalea, gweler uchod. Mae Canolfan Addysg Treftadaeth ynddi bellach.
- Croes Irisarri, heneb ger yr Ospitalea
- Fferm Bidegaina, o'r 17g
- Fferm Zaldunbidea.
- Palas Gazteluberria.
- Fferm Iturraldea, o'r 18g
Economi[golygu | golygu cod]
Mae economi'r ardal yn seiliedig ar amaethyddiaeth. Roedd y ffair hyrddod a oedd yn cael ei chynnal bob blwyddyn yn y dref yn boblogaidd iawn.[1]
Demograffeg[golygu | golygu cod]
Diwylliant[golygu | golygu cod]
Mae'r pentref wedi'i leoli ar y ffordd Errobi, amrywiad o Ffordd Sant Iago. Defnyddiwyd y llwybr hwn gan bererinion i ar eu ffordd o o Baiona cyn croesi'r Pyreneau o Donibane Garazi.
Oriel luniau[golygu | golygu cod]
-
Golwg ar Irisarri
-
Tirwedd Irisarri, gyda mynyddoedd Iparla yn y cefndir
-
Ffermydd yn Irisarri
-
Cwrt Pilota Irisarri, ger yr Eglwys
-
Y tu fewn i eglwys Sant Ioan y Bedyddiwr
-
Organ yr eglwys
-
Yn yr eglwys
-
Ospitalea
-
Tŷ yn Irisarri
-
Neuadd y Dref
-
Carreg gerfiedig ar dŷ
-
Carreg fedd
-
Merlyn Basgaidd
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Philippe Veyrin, Les Basques,Arthaud 1975. 44. orrialdea