Inez Bensusan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Inez Bensusan
Portrait of Inez Bensusan 1924 by Cecil William Rea.jpg
Ganwyd 1871 Edit this on Wikidata
Sydney Edit this on Wikidata
Bu farw 1967 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Awstralia Awstralia
Galwedigaeth actor, dramodydd, ysgrifennwr, swffragét Edit this on Wikidata

Ffeminist o Awstralia oedd Inez Bensusan (1871–1967) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel actor, dramodydd, awdur a swffragét.

Fe'i ganed yn Sydney yn 1871 i Samuel Levy Bensusan a'i wraig. Roedd ei theulu'n gyfoethog ac yn 1893 symudon nhw i Loegr. Daeth yn aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched a sefydlwyd gan Emmeline Pankhurst ac yn 1907 roedd yn un o sylfaenwyr Cynghrair Etholfraint yr Actorion (Actresses' Franchise League).

Awdures[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysgrifennodd dair drama un act ar gyfer y Gynghrair ac roedd yn bennaeth eu hadran ddrama. Bu'n hefyd yn aelod o'r Actresses' Franchise League a'r Gynghrair Etholfraint Menywod Iddewig (Jewish League for Woman Suffrage) am rai blynyddoedd.[1]

Yn 1911 roedd y suffragetiaid (sef yr enw a roddir i aelodau'r Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched) yn gwrthwynebu'r Cyfrifiad. Fel rhan o'u brotest Perfformiwyd Yr Afal am un o'r gloch y bore, am yr ail waith.[1]

Y flwyddyn ddilynol, fe'i penodwyd ar fwrdd rheoli Cynghrair Etholfraint Menywod Iddewig.

Yn Rhagfyr 1913, casglodd ynghyd griw theatrig yn Theatr Coronet, ond wedi ambell berfformiad torrodd y Rhyfel Byd Cyntaf a rhoddwyd y ffidil yn y to. Sefydlodd Cwmni Theatr y Merched ac aethant ar daith yn diddori Byddin Lloegr yng Nghwlen, yr Almaen.[2]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 "Inez Bensusan © Orlando Project". orlando.cambridge.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-11-22.
  2. "SAPDD Biographies - Inez Bensusan". SAPDD.