Indrawn

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o India corn)
Indrawn
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Monocotau
Ddim wedi'i restru: Comelinidau
Urdd: Poales
Teulu: Poaceae
Genws: Zea
Rhywogaeth: Z. mays
Enw deuenwol
Zea mays
L.

Grawnfwyd yw Indrawn, weithiau India corn neu ŷd India (Zea mays L.). Dechreuwyd tyfu'r planhigyn yng Nghanolbarth America, ac wedi i Ewropeaid gyrraedd America yn niwedd y 15fed a dechrau'r 16g, lledaenwyd ef trwy'r byd. Mae'n gnwd eithriadol o bwysig ar gyfandir America; tyfir 270 miliwn tunnell y flwyddyn yn yr Unol Daleithiau yn unig.

Gall dyfu bron mewn unrhyw fan gan gynnwys gwlyptiroedd, coedwigoedd a thwndra. Dofwyd ac addaswyd y planhigyn gan ffermwyr dros y milenia; chwiorydd i'r planhigyn hwn yw: gwenith, barlys, reis ac ŷd.

Prif gynhyrchwyr Indrawn y Byd (2005)
 Rhif  Gwlad  Cynnyrch 
(Tunelli metrig))
 Rhif  Gwlad  Cynnyrch 
(Tunelli metrig)
   1 Unol Daleithiau    282.260    9 De Affrica    11.996
   2 Tsieina    135.000    10 Yr Eidal    10.510
   3 Brasil    34.860    11 Rwmania    9.965
   4 Mecsico    20.500    12 Hwngari    9.017
   5 Yr Ariannin    19.500    13 Canada    8.392
   6 India    14.500    14 Wcrain    7.100
   7 Ffrainc    13.712    15 Yr Aifft    6.800
   8 Indonesia    12.014     Y Byd    710.300

Mae'n gnwd gweddol gyffredin yng Nghymru, er nad yw'r tywydd yn ddelfrydol iddo.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am rawnfwyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.