Neidio i'r cynnwys

Ilma Rakusa

Oddi ar Wicipedia
Ilma Rakusa
Ganwyd2 Ionawr 1946 Edit this on Wikidata
Rimavská Sobota Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Y Swistir Y Swistir
Addysgdoethuriaeth Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfieithydd, llenor, dramodydd, bardd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Zurich Edit this on Wikidata
Adnabyddus amMehr Meer: Erinnerungspassagen Edit this on Wikidata
Arddullrhyddiaith, barddoniaeth Edit this on Wikidata
Gwobr/auBerliner Literaturpreis, Llyfr y Flwyddyn, y Swistir, Gwobr Adelbert von Chamisso, Gwobr Manès-Sperber, Hieronymusring Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.ilmarakusa.info/ Edit this on Wikidata

Awdures Slofac o'r Swistir yw Ilma Rakusa (ganwyd 2 Ionawr 1946) sy'n cael ei hystyried yn ysgolhaig llenyddol, yn ddramodydd ac yn gyfieithydd gweithiau llenyddol.

Fe'i ganed yn Rimavská Sobota ar 2 Ionawr 1946; hanai ei thad o Slofenia a'i mam o Hwngari. Treuliodd ei phlentyndod cynnar yn Budapest, Ljubljana a Trieste. Ym 1951 ymsefydlodd y teulu yn y Swistir. Mynychodd Ilma Rakusa ysgol elfennol ac ysgol uwchradd yn Zurich. Ar ôl graddio, rhwng 1965 a 1971 astudiodd ieithoedd yn Zurich, Paris a Leningrad.[1][2][3]

Yn 1971 enillodd ddoethuriaeth mewn athroniaeth gydag astudiaeth lenyddol ar bwnc "Astudiaethau ar y thema unigedd yn llenyddiaeth Rwsia". Rhwng 1971 a 1977 bu'n gynorthwyydd yn Adran Slafaidd Prifysgol Zurich, lle bu'n gweithio fel darlithydd o 1977 i 2006. Gweithiodd Rakusa fel cyfieithydd o Ffrangeg, Rwseg, Serbo-Croateg a Hwngari ac fel awdur (Neue Zürcher Zeitung a Die Zeit). Yn 2019 oedd Ilma Rakusa yn byw fel awdur llawrydd yn Zurich. [4][5]

Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Mehr Meer: Erinnerungspassagen.

Aelodaeth

[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Academi Iaith a Barddoniaeth Almaeneg am rai blynyddoedd ac yn aelod o Gyfieithwyr Ysgoloriaeth Zug.

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Berliner Literaturpreis (2017), Llyfr y Flwyddyn, y Swistir (2009), Gwobr Adelbert von Chamisso (2003), Gwobr Manès-Sperber (2015), Hieronymusring (1987)[6] .


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. LIBRIS. dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2015. dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018.
  2. Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 14 Mehefin 2024.
  3. Dyddiad geni: "Ilma Rakusa". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ilma Rakusa". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ilma Rakusa".
  4. Man gwaith: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 31 Mawrth 2015
  5. Anrhydeddau: https://literaturuebersetzer.de/unser-verband/hieronymusring/. dyddiad cyrchiad: 13 Hydref 2022.
  6. https://literaturuebersetzer.de/unser-verband/hieronymusring/. dyddiad cyrchiad: 13 Hydref 2022.