Ilëwm
Delwedd:Illu small intestine.jpg, Illu small intestine català.png | |
Enghraifft o'r canlynol | math o organ, dosbarth o endid anatomegol ![]() |
---|---|
Math | zone of small intestine, endid anatomegol arbennig ![]() |
Rhan o | coluddyn bach ![]() |
Cysylltir gyda | jejunwm, colon, colon esgynnol, coluddyn dall, coluddyn mawr ![]() |
Rhagflaenwyd gan | jejunwm ![]() |
![]() |

Yr ilëwm /ˈɪliəm/ynganiad: [/]ˈɪliəmynganiad: [/] (hefyd glasgoluddyn) yw'r rhan olaf o'r coluddyn bach yn y rhan fwyaf o fertebratiaid uwch, gan gynnwys mamaliaid, ymlusgiaid ac adar. Mewn pysgod, nid yw'r gwahaniadau yn y goluddyn bach mor eglur a gellir defnyddio'r term ôl-berfeddyn yn lle'r ilëwm.[1]
Mae'r ilëwm yn dilyn y dwodenwm a'r jejwnwm ac wedi ei wahanu oddi wrth y coluddyn dall (caecwm) gan y falf ileocaecol (ICV). Mewn bodau dynol, mae'r ilëwm tua 2–4 m o hyd, ac mae'r gwerth pH fel arfer rhwng 7 ac 8 (niwtral i ychydig yn alcalïaidd).
Mae'r gair Lladin Canol īleum yn deillio o gymysgu'r geiriau Lladin clasurol īleus, īleos ‘bolgnofa, colig’ ag īlia ‘cesail y forddwyd, ymysgaroedd’.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Guillaume, Jean; Praxis Publishing; Sadasivam Kaushik; Pierre Bergot; Robert Metailler (2001). Nutrition and Feeding of Fish and Crustaceans. Springer. t. 31. ISBN 1-85233-241-7. ISBN 9781852332419. Cyrchwyd 2009-01-09.