Neidio i'r cynnwys

Hywel David Lewis

Oddi ar Wicipedia
Hywel David Lewis
Ganwyd21 Mai 1910 Edit this on Wikidata
Llandudno Edit this on Wikidata
Bu farw6 Ebrill 1992 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethathronydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Diwinydd ac athronydd o Gymru oedd Hywel David Lewis (21 Mai 19106 Ebrill 1992). Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei amddiffyniad o ddeuoliaeth y meddwl a'r corff a goroesiad personol.[1]

Cafodd Lewis ei eni yn Llandudno, Cymru a'i addysg yn Ysgol Ramadeg Caernarfon ac yna Coleg Prifysgol Cymru, Bangor lle derbyniodd radd dosbarth cyntaf mewn athroniaeth yn 1932 cyn troi tua Coleg yr Iesu, Rhydychen lle derbyniodd radd ac ôl-radd B. Lit yn 1935. Fe'i penodwyd yn ddarlithydd mewn athroniaeth ym Mangor, gan ddod yn athro yn 1947. Yn 1955, cafodd ei benodi'n Athro Hanes ac Athroniaeth Crefydd yn Mhrifysgol Llundain. Ymddeolodd yn 1977.

Bu'n sefydlydd a golygodd y cylchgrawn Religious Studies, o 1964 hyd 1979. Golygodd hefyd Lyfrgell Athroniaeth Muirhead o 1947 hyd at 1978. Gwasanaethodd fel llywydd yr Aristotelian Society o 1962 hyd 1963 a bu'n gadeirydd cyngor y Sefydliad Brenhinol Athroniaeth o 1965 hyd at 1968.

Bu farw ar 6 Ebrill 1992 a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Sant Tudno ar Ben-y-Gogarth.[1]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Morals and the New Theology (1947)
  • Morals and Revelation (1951)
  • Gwybod am Dduw (1952)
  • Our Experience of God (1959)
  • Freedom and History (1962)
  • Clarity is Not Enough (1963)
  • World Religions: Meeting Points and Major Issues [gyda Robert Lawson Slater] (1966)
  • Dreaming and Experience (1968)
  • The Elusive Mind (1969)
  • Philosophy of Religion (1969)
  • The Self and Immortality (1973)
  • Persons and Life after Death (1978)
  • Persons and Survival: Essays by Hywel D. Lewis and Some of His Critics (1978)
  • Logic, Ontology and Action (1979)
  • Pwy yw Iesu Grist? (1979)
  • Jesus in the Faith of Christians (1981)
  • The Elusive Self (1982)
  • Freedom and Alienation (1985)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]