Hugh Williams (cyfreithiwr)
Gwedd
| Hugh Williams | |
|---|---|
| Ganwyd | Sir Gaerfyrddin |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | cyfreithiwr |
| Cysylltir gyda | Helyntion Beca, Siartiaeth |
Cyfreithiwr a ddrwgdybir o fod yn arweinydd yn Helyntion Beca oedd Hugh Williams. Yn wreiddiol o Fachynlleth, symudodd i weithio fel cyfreithiwr yng Nghaerfyrddin a phriododd ferch o San Cler. Sefydlodd y ddau yng Nghydweli. Roedd yn Radical brwd ac yn weithgar gydag ymgyrch y Siartwyr hefyd.[1]
Un arall a amheir o fod yn arweinydd y Rebecayddion ydy'r Bargyfreithiwr Edward Compton Lloyd Hall.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 'Helynt y Beca' gan V. Eirwen Davies, tud 42; Gwasg Prifysgol Cymru, 1961.