Hugh Cudlipp

Oddi ar Wicipedia
Hugh Cudlipp
Ganwyd28 Awst 1913 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw17 Mai 1998 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Uwchradd Howardian Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
PriodEileen Ascroft, Jodi Hyland, Edith Parnell Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, Marchog Faglor Edit this on Wikidata

Golygydd ieuengaf erioed Stryd y Fflyd, Llundain a elwir hefyd yn "Frenin y Tabloids" oedd Hugh Cudlipp OBE (28 Awst 191317 Mai 1998) a aned yn 118 Heol Llysfaen, Caerdydd. Bu'n olygydd y Mirror.[1]

Roedd yn frawd i Reg, golygydd News of the World a Percy a fu'n olygydd Evening Standard. Gan iddo fod yn flaenllaw ym "Mrwydr y Tabloids", gelwid ef yn "Frenin" arnynt. Erbyn diwedd ei oes, fodd bynnag, poenai am ddirywiad cynnwys papurau'r tabloids.

Gadawodd ysgol fechgyn Howard Gardens High School (a ailalwyd yn ddiweddarach yn Howardian High School) yn 14 oed gan weithio i nifer o bapurau newydd lleol cyn symud i Fanceinion i weithio ar y Manchester Evening Chronicle yn 16 oed. Yn 1932, ag yntau'n 19 oed, symudodd i Lundain i weithio fel features editor ar y Sunday Chronicle. Yn 1935 ymunodd â staff y Daily Mirror.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
  2. Howard, Anthony. "Cudlipp, Hubert Kinsman (Hugh), Baron Cudlipp (1913–1998), journalist and publishing executive". Oxford Dictionary of National Biography. Cyrchwyd 2009-12-09. Italic or bold markup not allowed in: |work= (help)