Hua Guofeng

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hua Guofeng
Hua Guofeng-1.jpg
Ganwyd 16 Chwefror 1921 Edit this on Wikidata
Jiaocheng County Edit this on Wikidata
Bu farw 20 Awst 2008 Edit this on Wikidata (87 oed)
Beijing Edit this on Wikidata
Galwedigaeth gwleidydd Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid Gomiwnyddol Tsieina Edit this on Wikidata

Hua Guofeng (16 Chwefror 192120 Awst 2008) oedd olynydd Mao Zedong fel arweinydd Plaid Gomiwnyddol Tsieina a Gweriniaeth Pobl Tsieina.

Ganed ef fel Su Zhu yn Jiaocheng, talaith Shanxi. Pan fu farw Zhou Enlai yn 1976, olynodd ef fel Prif Weinidog Gweriniaeth Pobl Tsieina. Bu farw Mao ei hun ychydig fisoedd yn ddiweddarach, ac olynodd Hua ef fel Cadeirydd y Blaid Gomiwnyddol.

Rhoddodd Hua ddiwedd ar y Chwyldro Diwylliannol, a llwyddodd i leihau grym Jiang Qing a'i chyngheiriaid, y Gang o Bedwar. Fel arall, parhaodd a pholisïau Mao. Yn raddol, enillodd Deng Xiaoping rym o fewn y Blaid Gomiwnyddol, ac olynywyd Hua fel Prif Weinidog gan Zhao Ziyang yn 1980, ac fel Cadeirydd y Blaid gan Hu Yaobang yn 1981.