Hogiau'r Deulyn
Gwedd
| Enghraifft o: | band |
|---|---|
| Iaith | Cymraeg |
| Dod i'r brig | 1968 |
| Dod i ben | 1970 |
| Genre | Pop Cymraeg, Canu gwerin |
| Dynodwyr | |

Grŵp canu pop Cymraeg ysgafn ac harmonïau tynn o ddiwedd yr 1960au oedd Hogiau'r Deulyn. Roeddynt yn rhan o'r ymchwych mewn canu ysgafn poblogaidd Cymraeg a ganai caneuon gwerin, pop a chyfieithiadau o ganeuon Saesneg ar y pryd. Noder bod y grŵp yn sillafu'r gair 'hogiau' yn safonnol, nid yn dafodiaethol fel Hogia Llandegai a Hogia'r Wyddfa. Roedd iddynt bedwar aelod.[1]
Enw flaenorol ar bentref Nantlle yw Baladeulyn cyn i'r ddau lyn cael eu gwacáu adeg y diwydiant llechi.
Y grŵp
[golygu | golygu cod]Ffurfiwyd y grŵp gan bedwar aelod o Seindorf Dyffryn Nantlle wedi cyngerdd yng Nghapel Baladeulyn lle gofynwyd iddynt ganu fel rhan o'r noson. Yr aelodau oedd:[1]
- Walter H. Rodgers - plastrwr ac un o arweinwyr ifancaf y Seindorf
- Richard Owen - clerc yn swyddfa Caernarfon o'r cwmni trydan cwmni MANWEB oedd hefyd yn aelod o'r Cyngor Dosbarth
- Griffith Wyn Jones - peiriannydd o bentref Talysarn a ddatblygodd hwyl am ganu tra'n gwasanaethau gyda Fyddin yn yr Almaen. Andebir hefyd fel Guto.
- Gwynne Williams - saer coed o Nantlle.
- Bu Richard Morris yn cyfeilio iddynt.
Disgograffi
[golygu | golygu cod]Cyhoeddwyd o leiaf pedair record sengl gan y grŵp.[2]
- I Ba Beth Mae'r Byd Yn Dod / Y Milwr CSP 706 Recordiau Cambrian 1969
- Caneuon: Ochr A: I Ba beth mae'r Byd yn dod Ochr B: Y Milwr [1]
- Hogiau'r Deulyn CEP 439 Recordiau Cambrian 1969
- Caneuon: Ochr A: Nant y Mynydd, A2: Gwynfyd Coll. Ochr B: Dyffryn Nantlle; B2: Cymru fy Ngwlad.[1]
- Wil Coes Pren / Awn Ein Dau CSP 714 Recordiau Cambrian 1970[3]
- Caneuon: Ochr A: Wil Coes Pren; Ochr B: Am ein Dau
- Rho I'm Dy Serch CSP 710 Recordiau Cambrian 1970[4]
- Caneuon: Rho i'm dy Serch; Aelwyd fy Mam.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 "Hogiau'r Deulyn". Broliant clawr Recordiau Cambrian. 1969. Cyrchwyd 8 Ebrill 2024.
- ↑ "Hogiau'r Deulyn". Discogs. Cyrchwyd 8 Ebrill 2024.
- ↑ "Wil Coes Bren a Rho i'm dy Serch". Wicipediad. Cyrchwyd 8 Ebrill 2024.
- ↑ "Wil Coes Bren a Rho i'm dy Serch". Wicipediad. Cyrchwyd 8 Ebrill 2024.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "Awn ein dau" Cân Hogia'r Deuluyn yn cael ei berfformio gan Guto Wyn a Bertwyn Rees Jons (Tachwedd 2020)
- Hogiau'r Deulyn ar Apple Music
- Albwm 'Y Bois a'r Hogia' record amlgyfrannog gyda chaneuon Rho im dy Serch a Wil Coes Bren gan Hogiau'r Deulyn