Hogia'r Bonc

Oddi ar Wicipedia

Grŵp o ardal Bethesda yw Hogia'r Bonc sydd yn mynd o gwmpas tafarndai, clybiau a neuaddau yn canu caneuon gwerin a phoblogaidd Cymraeg.

Maent wedi recordio dwy CD ar label Sain; Y Rheol Bump oedd y cyntaf ac Un Cam yn Nes yw'r ail. Mae Un Cam yn Nes yn cynnwys caneuon gan Meic Stevens, Dafydd Iwan, Mim Twm Llai, yn ogystal â chaneuon gwreiddiol gan aelodau'r grŵp.

Mae 11 aelod yn y grŵp, gydag 10 ohonynt yn aelodau hefyd o Gôr Meibion y Penrhyn, ac eleni (2018) maent yn. dathlu eu penblwydd yn 20 oed.

Maent yn canu i gyfeiliant gitar Acwstig a gitar fas. Gellir eu clywed yn canu caneuon gwerin a chaneuon poblogaidd o'r 70au - 90au, yn ogystal â chaneuon poblogaidd cyfoes a chaneuon gwreiddiol.

Mae'r hogia wedi rhyddhau 3 CD: Y Rheol Bump, UnCam yn Nes, Pesda Bach Ni (2018).

Aelodau[golygu | golygu cod]

  • Alun Davies (gitâr acwstig a llais)
  • Alwyn Jones (gitâr fas)
  • Bryn Evans
  • Ieuan Hughes
  • Brynmor Jones
  • Gwyn Burgess
  • Tom Williams
  • Gareth Hughes
  • Brian Pritchard
  • Maldwyn Pritchard
  • Walter Williams

Mae'n draddodiad i'r grŵp deithio i'r Iwerddon yn flynyddol. Maent eisoes wedi bod yn Galway, Rosslare, Mulingar, Maynooth, yn ogystal a chanu mewn cyngherddau yn yr Unol Daleithiau.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]