Hjalmar Söderberg

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Hjalmar Söderberg

Nofelydd, dramodydd, bardd a newyddiadurwr o Sweden oedd Hjalmar Emil Fredrik Söderberg (2 Gorffennaf 186914 Hydref 1941). Mae ei weithiau yn aml yn ymwneud â chymeriadau pruddglwyf a chlaf o gariad, ac yn cynnig portread cyfoethog o Stockholm ei gyfnod. Mae Söderberg yn cael ei werthfawrogi'n fawr yn ei famwlad, ac weithiau yn cael ei weld yn gydradd ag August Strindberg.

Yn enedigol o Stockholm, dechreuodd Söderberg ei yrfa lenyddol gyda'r papur newydd dyddiol Svenska Dagbladet pan oedd yn 20 oed. Chwe blynedd yn ddiweddarach, cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Förvillelser (Lledrithion, 1895), wedi'i hysgrifennu o safbwynt dandi ifanc sy'n ofera yn y brifddinas, yn gwastraffu arian a charu. Daeth y stori brudd a myfyrgar yn nodweddiadol o waith Söderberg. Cyn cyhoeddi Historietter (Hanesion, 1898), casgliad o ugain stori fer, ymddangosodd ei brif waith nesaf – Martin Bircks Ungdom (Ieuenctid Martin Birck, 1901). Yn debyg i Förvillelser o ran y darlun amgylcheddol byw a'r ddirnadaeth graff, mae'n dilyn datblygiad bardd amatur ifanc. Nofel nesaf Söderberg, sy'n cael ei ystyried gan rai fel ei gampwaith, oedd Doktor Glas (Doctor Glas, 1905). Mewn stori ddychrynllyd o ddial ac angerdd, mae Söderberg yn cadw at ei arddull dwysbigol ond digyffro.

Trodd Söderberg at newyddiaduraeth ac astudiaethau diwinyddol mewn blynyddoedd diweddarach. Roedd yn ffyrnig o feirniadol o Natsïaeth, a byddai'n aml yn sygrifennu ar y pwnc ym mhapur y Gwrthsafiad Göteborgs Handels- och Sjöfartstidning. Bu farw yn Denmark ac mae wedi'i gladdu yn Vestre Kirkegård yn Copenhagen.

Bu Söderberg yn briod â Märta Abenius (g. 1871, m. 1932) rhwng 1899 a 1917. Cawsant dri o blant: yr actores Dora Söderberg-Carlsten (g. 1899), Tom Söderberg (g. 1900) a Mikael Söderberg (g. 1903). O 1917 ymlaen, bu'n briod yn Denmarc â Emelie Voss (g. 1876, m. 1957), a chawsant un plentyn: yr actores Betty Søderberg (g. 1910).

Cafodd Söderberg berthynas dymhestlog am nifer o flynyddoedd gyda Maria von Platen (g. 1871, m.1959), a dywedir i'r berthynas honno ddylanwadu ar ei waith, yn arbennig ei ddrama Gertrud (1906), a'r cymeriad Lydia yn Den allvarsamma leken (Y Gêm Ddifrifol, 1912).

Rhestr o'i weithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Förvillelser (1895) – "Lledrithion"
  • Historietter (1898) – "Straeon Byrion"
  • Martin Bircks ungdom (1901) – "Ieuenctid Martin Birck"
  • Främlingarne (1903) – "Y Dieithriaid"
  • Doktor Glas (1905) – "Doctor Glas"
  • Gertrud (1906) (drama mewn tair act)
  • Det mörknar över vägen (1907) – "Mae'r Ffordd yn Tywyllu"
  • Valda sidor (1908) – "Cymryd Ochrau"
  • Hjärtats oro (1909) – "Gofid y Galon"
  • Den allvarsamma leken (1912) – "Y Gêm Ddifrifol"
  • Aftonstjärnan (1912) – "Seren yr Hwyr" (drama un act)
  • Den talangfulla draken (1913) – "Y Ddraig Ddawnus"
  • Jahves eld (1918) – "Tân Jahve"
  • Ödestimmen (1922) – "Awr y Dynged" (drama mewn tair act)
  • Jesus Barabbas. Ur löjtnant Jägerstams memoarer (1928)
  • Resan till Rom (1929) – "Gwibdaith i Rufain"
  • Den förvandlade Messias (1932) – "Y Meseia Newidiedig/Gweddnewidiedig"